Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Is-strategaeth ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd

Heb ymchwil ac arloesedd, byddai COVID-19 wedi bod yn drychineb iechyd byd-eang digynsail. Fe wnaeth buddsoddi’n hirdymor mewn ymchwil ac arloesedd yn y DU alluogi ymateb cyflym. Datblygu therapïau oedd yn cael y prif sylw yn y lle cyntaf ond aethpwyd ati wedi hynny i edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael ag effeithiau hirdymor y pandemig ar gymdeithas, iechyd a’r economi. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd – o fiowybodegwyr i gyfreithwyr a chlinigwyr i newyddiadurwyr – wedi chwarae rôl hollbwysig yn yr ymdrech ledled y DU i fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan COVID-19, ac maent yn parhau i wneud hynny. Ategir hyn gan ffyrdd newydd o rannu data a chydweithredu’n fyd-eang - rhywbeth na fyddem wedi gallu ei ddychmygu flwyddyn yn ôl. Wrth edrych i’r dyfodol, nid yw ein dyheadau o ran ymchwil ac arloesedd wedi newid, ond byddant yn cael eu cyflawni yng nghyd-destun y newidiadau seismig hyn ac yn sicrhau bod Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa gref o hyd i gyfrannu at iechyd, cyfoeth, diogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru a’r DU a ledled y byd.

Ein huchelgais

Prifysgol lwyddiannus, eang ei chwmpas ac ymchwil-ddwys sy’n arwain y byd yw Prifysgol Caerdydd. Mae’r ffaith ein bod yn un o’r pum prifysgol uchaf yn REF 2014 yn cadarnhau hynny. Fel Cartref Arloesedd Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas. Rydym yn helpu ein cymuned o ysgolheigion i weithio â dychymyg, egni a chreadigrwydd a datblygu atebion i heriau byd-eang, p’un a ydynt yn rhai a achosir gan COVID-19, iechyd meddwl, troseddu a diogelwch neu newid yn yr hinsawdd. O weithio i ddileu digartrefedd i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dai clyfar sy’n effeithlon o ran ynni, mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn rhagori mewn meithrin y partneriaethau allanol sydd eu hangen arnynt i gymhwyso ymchwil ragorol yn llwyddiannus.

Adeiladu ar y strategaeth flaenorol

Ers canlyniad REF 2014, gwelwyd buddsoddiad parhaus yn ein seilwaith ymchwil a’n capasiti i wneud gwaith ymchwil. Gwelwyd hefyd gwaith ymchwil llwyddiannus yn cael ei wneud gyda busnesau a chynnydd mewn incwm ar gyfer ymchwil.  Yn 2019-20, gwnaethom sicrhau gwerth £150 miliwn mewn dyfarniadau ymchwil, y swm uchaf y mae Prifysgol Caerdydd wedi’i sicrhau erioed. Rydym hefyd wedi dyblu nifer ein canolfannau ymchwil ryngddisgyblaethol a nifer y cymrodyr ymchwil annibynnol. Mae’r gwaith sylweddol o ehangu ein campws, sy’n cyd-leoli ymchwil ac arloesedd fel eu bod yn cael eu cyd-greu, wedi rhoi hwb sylweddol i arloesedd a ysgogir gan ein gwaith ymchwil rhagorol. Mae hefyd yn hyrwyddo cydweithredu ac entrepreneuriaeth ymhlith ein hacademyddion a’n myfyrwyr. Mae ein Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, deorydd academaidd-busnes sy’n rhan o glwstwr CSconnected De Cymru, yn enghraifft o hyn. Rydym wedi datblygu partneriaethau strategol mawr newydd gyda’r diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gan gynnwys cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fe wnaeth cydweithio â chymunedau lleol, gan gynnwys ein prosiectau Porth Cymunedol Grangetown a Threftadaeth CAER, helpu i ddiwallu eu hanghenion. Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru, Cynghrair GW4 a phartneriaid eraill i gynnal ymchwil sy’n gallu cystadlu ar lefel fyd-eang.

Amcanion sylfaenol

Byddwn yn cael ein hadnabod fel prifysgol:

  • lle mae gyrfaoedd academaidd a diwylliant ymchwil cadarnhaol yn ffynnu. Bydd ein cymuned amrywiol o ymchwilwyr, o fyfyrwyr i athrawon, yn cael ei helpu a'i grymuso i gynnal ymchwil o safon uchel ac sydd â dylanwad byd-eang, a bydd cymorth yn cael ei roi i’r rhai y mae COVID-19 yn effeithio arnynt fwyaf.
  • sy'n sicrhau bod rhagoriaeth ymchwil wrth wraidd arloesedd a’i chenhadaeth ddinesig. Bydd arloesedd ac ymchwil yn cael eu hystyried yr un mor bwysig â’i gilydd ac yn weithgareddau synergaidd, a bydd y staff yn cael yr amser a’r lle, yn ogystal â chael eu hannog, i gyfnewid gwybodaeth yn llwyddiannus. Bydd hyfforddiant, cyllid ysgogi, mannau cydweithio a deoryddion arloesedd yn helpu i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd ac yn helpu’r staff i rannu syniadau â’i gilydd yn ddiffwdan ar draws sectorau academaidd ac anacademaidd.
  • sy'n buddsoddi mewn cyfleusterau, offer a chymorth o'r radd flaenaf ar gyfer ein hymchwilwyr, ein staff technegol a’n partneriaid. Byddwn yn gwella ein seilwaith ategol yn barhaus ac yn hyrwyddo’r ffyrdd gorau o weithredu’n ddigidol i sicrhau ecosystem ymchwil ac arloesedd gydgysylltiedig yn fyd-eang. Bydd cwblhau ein Campws Arloesedd yn sicrhau bod ymchwil ragorol sy’n cael effaith yn cael ei chynhyrchu.
  • sy'n parhau i dyfu ac amrywio ein partneriaethau busnes a strategol i ysgogi buddsoddiad mewnol yng Nghymru. Drwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn datblygu dull cynhwysfawr o gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth i ysgogi mwy o fuddsoddiad mewnol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cefnogi gradd-brentisiaethau, partneriaethau hyfforddi addysg bellach-addysg uwch arloesol a’r gwaith o greu swyddi mewn sectorau ymchwil ac arloesedd â blaenoriaeth yn rhanbarthol.
  • lle mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn fyd-eang yn cael eu meithrin. Bydd ymchwilwyr yn cael eu helpu i ddatblygu partneriaethau’n rhyngwladol sy'n cynnig atebion i heriau a wynebir gan y rhai mwyaf mewn angen yng Nghymru, y DU a'r byd. Byddwn yn croesawu cydweithio’n rhithwir a rhannu data'n agored, a fydd yn ehangu ein cyrhaeddiad a'n partneriaethau.

Gwneud i hyn ddigwydd

Rydym wedi ymrwymo i hwyluso diwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol sy'n ei gwneud yn bosibl sicrhau rhagoriaeth mewn ymchwil mewn ffordd onest a thryloyw. Byddwn yn ehangu amrywiaeth y lleisiau yn ein cymuned ymchwil ac yn sicrhau ein bod yn cydnabod cyfraniadau timau ymchwil proffesiynol-academaidd. Bydd ein strategaeth fuddsoddi’n ysgogi syniadau newydd a chreadigrwydd ymhlith y staff yn ogystal ag ymchwil ar raddfa fawr, o ymchwil darganfod i ymchwil drosi, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Bydd cwblhau campws Arloesedd fydd yn arwain y sector yn sicrhau bod y seilwaith a'r mannau cydweithio ar gael i weithio mewn partneriaeth yn effeithiol â busnesau, y diwydiant, y sector cyhoeddus, y llywodraeth a sefydliadau eraill. Bydd buddsoddiadau ategol yn ysgogi dyheadau entrepreneuraidd ymhlith ein staff a'n myfyrwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fynd o nerth i nerth fel sefydliad sy’n arwain y sector ym meysydd arloesedd ac effaith a arweinir gan ymchwil. Byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried anghenion ein cymunedau lleol, ac effeithiau COVID-19 arnynt, wrth gyflawni'r nodau hyn.

Meithrin a hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymchwil mewn ffordd onest a chynhwysol

Byddwn yn:

  • cynnwys allbynnau ac effaith ragorol ar gyfer REF 2021, sy’n adlewyrchu ein dull cynhwysol o gefnogi rhagoriaeth mewn ymchwil ym mhob disgyblaeth a chan bob aelod o’n cymuned ymchwil amrywiol. Ein nod yw bod ymhlith y 12 uchaf yn REF 2021 (ar sail Grym Ymchwil).
  • sicrhau bod ein dyheadau o ran y REF yn cyd-fynd â’r gwaith sy’n cael ei wneud yn barhaus i weithredu proses Adolygu Datblygiad Perfformiad gadarn, teg ac effeithiol, yn ogystal â sicrhau bod unigolion ar gael i alluogi ymchwil ragorol yn unol â safonau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth.
  • sicrhau bod anghydraddoldebau a COVID-19 yn cael eu hystyried wrth wneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesedd a sicrhau bod cymorth yn parhau i gael ei roi i’r myfyrwyr a’r staff hynny yr effeithir arnynt fwyaf i’w helpu i gyflawni eu dyheadau ymchwil.

Cyfoethogi ein diwylliant ymchwil a hyrwyddo llwyddiant ar draws pob un o’n cymunedau ymchwil amrywiol

Byddwn yn:

  • hyrwyddo diwylliant ymchwil agored a chynhwysol i ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa, gyda chefnogaeth ein Deon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n Deon Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil.
  • blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu arweinwyr ymchwil ysbrydoledig ac effeithiol, ochr yn ochr â chefnogi dyheadau Prifysgol Caerdydd sy’n ymwneud ag addysgu rhagorol a arweinir gan ymchwil.
  • helpu ymchwilwyr ar gam cynnar yn eu gyrfa i hyfforddi, datblygu eu gyrfa a’i chynnal, yn ogystal â sicrhau ein bod yn fwy gweladwy ac ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sy’n cyd-fynd â’r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr.
  • arddel egwyddorion tryloywder ac effeithlonrwydd ymchwil agored, a chydweithredu ar ymchwil o’r fath, mewn ffordd sy’n mynd ymhellach na chydymffurfio’n unig, gan gyd-fynd â’n hymrwymiad i DORA.
  • sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'r holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar draws ein portffolio ymchwil ac arloesedd.
  • cyflwyno mentrau strategol wedi'u cyllido i sicrhau bod gan ymchwilwyr yr amser a’r lle, a bod yr amgylchedd yn gefnogol, i wneud ymchwil ragorol. Yn benodol, byddwn yn buddsoddi cyllid mewn:
    • sefydliadau arloesedd newydd yn y Brifysgol gan ganolbwyntio ar ymchwil ryngddisgyblaethol a throsi sy'n datblygu’n gyflym ac sy’n gallu manteisio ar gymorth wrth baratoi cynigion o bwys.
    • Absenoldeb Ymchwil yn y Brifysgol, sy'n gysylltiedig â'n Cynllun Disglair arloesol a ddatblygwyd i helpu ymchwilwyr dawnus i symud i waith addysgu ac ymchwil.
    • cyflawni ein strategaeth ryngwladol newydd a chydweithredu â phartneriaid rhyngwladol mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac yn cyd-fynd â'u strategaethau, eu meysydd blaenoriaeth a'u mentrau cenedlaethol eu hunain.
    • cyfleusterau a seilwaith o'r radd flaenaf, yn ogystal â mentrau sy’n ymwneud ag arloesedd a’r genhadaeth ddinesig sydd o fudd i'n cymunedau a'n rhanbarth lleol.
    • effaith ar gam cynnar ac ymchwil drosi sy'n helpu ymchwilwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o anghenion partneriaid allanol a chyfnewid gwybodaeth yn effeithiol.

Hybu twf clystyrau ymchwil ac arloesedd o bwys yn y rhanbarth

Byddwn yn:

  • datblygu ein blaenoriaethau o ran ymchwil ac arloesedd drwy sicrhau buddsoddiad o’r tu allan yn ein Sefydliadau Arloesedd newydd a gweithio'n agos gyda phartneriaid allanol yn yr ecosystem arloesedd yng Nghymru a’r DU a thrwy’r byd i gyd.
  • cydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid rhanbarthol eraill, fel Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Porth y Gorllewin a Chynghrair GW4, i greu clystyrau arloesedd ar raddfa fawr.
  • buddsoddi yn y bobl, y lleoedd a'r partneriaethau sy'n angenrheidiol i gyflawni ein dyheadau o ran arloesedd, gan gynnwys datblygu ein prif bartneriaethau strategol â byd busnes.
  • parhau i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu ein Campws Arloesedd mawr, gan gynnwys Arloesedd Canolog, fel cyfrwng hanfodol i gefnogi busnesau newydd, cwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.
  • gwella cefnogaeth a phrosesau'r Brifysgol drwy Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru a chreu mwy o gyfleoedd i'n staff a'n myfyrwyr arloesi a mentro.

Meithrin a hyrwyddo academyddion a myfyrwyr creadigol, arloesol ac entrepreneuraidd

Byddwn yn:

  • datblygu cyfres o gyfleoedd hyfforddi dychmygus sy’n arwain y sector mewn arloesedd, menter, gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd a’r genhadaeth ddinesig, a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd ac arloesedd ein staff a'n myfyrwyr yn gyflym.
  • cyflwyno cynlluniau cyllido mewnol newydd sy’n ceisio helpu unigolion i arloesi, sicrhau effaith a gwneud ymchwil drosi yn effeithiol a chynnig buddsoddi ar bob cam o ffrwd ymchwil drosi.
  • penodi cymrodyr arloesedd anrhydeddus o fyd busnes, diwydiant, y GIG a sectorau allweddol eraill i gyfoethogi cymuned arloesedd Prifysgol Caerdydd, helpu i fentora, datblygu sgiliau entrepreneuraidd a gweithio mewn partneriaeth.
  • datblygu Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd i fod yn fforwm o ansawdd uchel sy’n arwain y byd er mwyn i randdeiliaid rannu arfer gorau a gwneud cynigion ymchwil a datblygu newydd.
  • datblygu systemau cefnogol i ddatblygu secondiadau cymorth a chyfnewid staff rhwng y Brifysgol a sefydliadau partner.
  • hyrwyddo a dathlu llwyddiant wrth arloesi a sicrhau effaith, yn ogystal â sicrhau bod pob aelod o'n cymuned amrywiol yn gallu cyfnewid gwybodaeth ar gam cynnar hyd at y cam masnacheiddio.

Hyfforddi gweithlu medrus sy'n gallu sicrhau economi'r dyfodol yn gyflymach

Byddwn yn:

  • cyflwyno Cynllun Datblygu Arloesedd newydd i helpu i hyfforddi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd am ddatblygu sgiliau ac arbenigedd mewn arloesedd a menter.
  • parhau i gyfoethogi ein rhaglen Arloesedd i Bawb drwy hyfforddi, cyllido, gweithio mewn partneriaeth a mentora a, thrwy hynny, cynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymchwilwyr y Brifysgol i arloesi a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd a’r genhadaeth ddinesig.
  • rhoi cyfleoedd i'n myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau, cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a’r genhadaeth ddinesig, a gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu atebion creadigol i heriau cymdeithasol.
  • sicrhau darpariaeth addysgol newydd mewn ymateb i alw'r diwydiant, fel y gwelir yn ein rhaglen hyfforddi addysg bellach-addysg uwch ar y cyd i ddiwallu anghenion am swyddi ym maes gweithgynhyrchu uwch neu yn ein Hacademi Gwyddor Data lle mae gwyddonwyr data medrus ar gael i gyd-fynd ag anghenion y diwydiant.
  • gwella darpariaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac Addysg Weithredol i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'n cryfderau o ran ymchwil ac arloesedd ac yn diwallu anghenion allweddol cyflogwyr.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Is-strategaeth ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd
Dyddiad dod i rym:11 Hydref 2021