Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraniadau

Mae cyflwyno mewn cynhadledd yn rhan bwysig o gyfathrebu i unrhyw ymchwilydd neu academydd ac mae’n gyfle i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf yn eich maes ymchwil.

Yn draddodiadol, cafwyd ystod o weithgareddau yn ystod Burwalls, megis:

  • cyflwyniadau cyflym rhwng 1 a 4 munud o hyd
  • cyflwyniadau academaidd byr a chanolig (ar ôl cyflwyno crynodeb) gan athrawon bioystadegaeth a chlinigwyr
  • prif gyflwyniadau
  • gweithdai
  • sesiynau trafod pynciau sy’n berthnasol i fioystadegaeth, addysgu ystadegaeth feddygol a datblygiad gyrfaol.

Rydym yn awyddus i gynnwys ac annog addysgwyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol newydd a darlithwyr sydd newydd eu penodi ac sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd addysgu. Efallai cynhelir sesiwn bosteri os yw’r niferoedd yn ddigonol.

Rhowch wybod i’r trefnwyr os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau ar gyfer gweithgareddau yn y maes hwn.

Cyflwyno crynodeb

Cyflwynwch eich cyfraniad i Burwalls 2021 trwy ebost gan ddefnyddio'r ffurflen Cyflwyno Crynodeb Burwalls a'i chyflwyno i'r cysylltiadau a restrir isod.

Rydym yn annog ceisiadau ar y themâu hyn:

  • datblygu methodolegau addysgu
  • arloesiadau mewn addysgu
  • cynnal ymchwil neu ymgynghoriad fel darlithydd ystadegau
  • Datblygiad gyrfaol a phroffesiynol
  • mae croeso hefyd i syniadau eraill

Os hoffech drafod unrhyw syniadau am gyfraniad i'r gweminar eleni, cysylltwch â'r cysylltiadau isod. Bydd gwobr am y cyfraniad gorau a'r ail orau.

Cysylltu â ni

Dr Renata Medeiros-Mirra

Dr Renata Medeiros-Mirra

Darlithydd mewn Ystadegau

Email
medeirosmirrarj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6292
Dr Damian Farnell

Dr Damian Farnell

Uwch-ddarlithydd mewn Ystadegau Meddygol

Email
farnelld@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29225 10618