Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn fforwm ymchwil academaidd yn arwain gwaith ysgolheigaidd arloesol ac ymchwil ynghylch polisïau sy’n cyfrannu at drafodaeth fyd-eang am bolisïau’r rhyngrwyd.

Mae technolegau a gaiff eu cyfryngu gan gyfrifiaduron wedi ennill eu plwyf ar draws sawl dimensiwn o wleidyddiaeth fyd-eang, gan greu ffrydiau newydd o ymchwil ym maes cysylltiadau rhyngwladol.

Ein cenhadaeth yw myfyrio ymhellach ar effaith y rhyngrwyd ar wleidyddiaeth fyd-eang yn y diffiniad ehangaf, a chyfrannu at faes astudiaethau’r rhyngrwyd mewn ffyrdd arloesol. Mae'r ganolfan yn cynnwys arbenigwyr ar lywodraethu'r rhyngrwyd, y rhyngrwyd a diogelwch byd-eang a hawliau dynol.

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yw cartref y Ganolfan a golyga hynny ei bod yn gallu elwa ar arbenigedd amlddisgyblaethol eithriadol yr Ysgol ym meysydd:

  • cysylltiadau rhyngwladol
  • llywodraethu byd-eang
  • cyfraith ryngwladol
  • gwleidyddiaeth Ewropeaidd
  • hawliau dynol
  • astudiaethau diogelwch.

Dyma ddisgyblaethau sy'n cynnig safbwyntiau allweddol ar gyfer deall technolegau digidol mewn cyd-destun byd-eang.

Rydym yn croesawu arian os bydd hynny’n gysylltiedig â’i gwerthoedd craidd, sef datblygu astudiaethau cwbl annibynnol a niwtral a fydd yn arwain at ryngrwyd mwy cynhwysol, hygyrch ac agored, gan wneud yn siŵr y caiff hawliau dynol eu parchu ar draws y byd.