Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn ennill grantiau a buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd. O ganlyniad i'r buddsoddiadau hyn, mae ein tîm wedi tyfu'n gyflym a bellach mae gennym 45 o aelodau staff.

Celloedd canser wedi'u staenio'n flodeuol.
Celloedd canser wedi'u staenio'n flodeuol.

Canolbwynt ymchwil

Mae ein harbenigwyr yn cael cydnabyddiaeth am ymgymryd â gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar rai o’r ffurfiau mwyaf  ymosodol o ganser gan gynnwys canser gastroberfeddol, canser y pancreas, canser yr ysgyfaint a chanserau endocrinaidd. Mae'r rhain ymhlith y meysydd sy'n cael eu blaenoriaethu mewn ymchwil gofal iechyd a chanser yn y DU a Tsieina fel ei gilydd. Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio'n arbennig ar salwch metastatig.

Themâu ymchwil

Mae ein themâu ymchwil presennol yn cynnwys:

  • angiogenesis a ysgogir gan diwmor, angiogenesis lymff ac ymyrraeth
  • targedu moleciwlau sy’n ymledu ac yn ysgogi metastasis
  • sgrinio moleciwlau a phroffilio genynnau tiwmor sy’n gysylltiedig â metastasis
  • datblygu gweithredwyr gwrth-angiogenesis a gwrth-metastasis newydd.

Allbynnau ymchwil

Mae ein cysylltiadau gyda Tsieina wedi arwain at ganlyniadau boddhaus gan gynnwys:

  • cyhoeddiadau ymchwil ar y cyd
  • diagnosis newydd
  • meddyginiaethau newydd
  • patentau
  • cyfnewid gwyddonwyr

Mae'n gyffrous iawn i weld sut mae gwyddonwyr yn y DU yn meddwl am ymchwil canser a'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir. I fi, roedd CCMRC yn amgylchedd ymchwil rhagorol gydag awyrgylch gyfeillgar ac academaidd hefyd.

Laura Xu Teng, Cyn Gymrawd