Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan

Rydym yn croesawu unigolion hoff cytûn i ymgysylltu gyda ni ac i gymryd rhan yn ein gweithgareddau ymchwil.

Arian

Cysylltwch â ni os hoffech chi fuddsoddi mewn prosiect ymchwil neu gydweithio ar gais am grant. Rydym yn awyddus i drafod ac i gymryd mantais o'r cyfleoedd i sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer ein hymchwil canser.

Siaradwyr gwadd

Hoffech chi gyflwyno eich darganfyddiadau a'ch canlyniadau diweddaraf? Ymunwch â ni yn ein cyfarfodydd seminar misol yn Adeilad Henry Wellcome, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd lle mae'r cyfranogwyr yn cynnwys gwyddonwyr, academyddion a myfyrwyr.

Os ydych chi'n cynnal digwyddiad neu angen siaradwr, mae ein hymchwilwyr o safon yn gallu mynychu a chyflwyno mewn digwyddiadau neu gynadleddau rhyngwladol i drafod ymchwil canser. Rydym yn credu'n gryf mewn gwella gwybodaeth y cyhoedd.

Rhagor o wybodaeth am ein tîm sydd wedi ennill gwobrau (Saesneg yn unig)

Arddangosiadau

Mae gennym gyfleoedd i chi i arddangos eich offer ymchwil diweddaraf i'r tîm. Gallwn gynnal arddangosiadau technoleg yn ein labordai. Ein nod yw bod ar flaen y gad wrth ymdrin â'r dechnoleg ddiweddaraf.

Rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau uwch-dechnoleg (Saesneg yn unig)

Lleoliadau

Os ydych yn 16 neu'n hŷn ac yn dymuno dysgu mwy am ymchwil canser, cysylltwch â ni am leoliadau gwaith labordy neu glinigol yn ein tîm. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar amrywiaeth o brosiectau.

Cysylltu

Os oes diddordeb gennych mewn gweithio gyda ni, cysylltwch â ni:Insert New Container

Ymchwil Meddygol Cydweithrediadol Caerdydd Tsieina (CCMRC)