Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Tîm Ymchwil Meddygol Cydweithredol Caerdydd Tsieina yn y prif labordy.
Tîm Ymchwil Meddygol Cydweithredol Caerdydd Tsieina yn y prif labordy.

Mae ein tîm, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnwys 45 o wyddonwyr o bedwar ban y byd. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn Tsieina i ymgymryd ag ymchwil canser cydweithredol i hwyluso diagnosis ac atal a thrin canser.

Addysg a hyfforddiant

Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ac addysgu ar gyfer myfyrwyr PhD a MD, gwyddonwyr, a doctoriaid ym meysydd canser ac oncoleg. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd ymchwil, rydym yn cefnogi datblygiad addysgol ymchwilwyr iau ac academyddion, gan gynnwys myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a chymrodyr clinigol, drwy weithgareddau addysgu, ysgoloriaethau ymchwil a chymrodoriaethau clinigol.

Ysgoloriaethau

Yn 2007, gwnaethom gychwyn cynllun ysgoloriaeth sydd wedi gwella cyfleoedd i gydweithwyr yn Tsieina i ymweld â Chaerdydd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant clinigol. Rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o ddoctoriaid, llawfeddygon a gwyddonwyr ymchwil meddygol Tsieineaidd yn dymuno treulio amser yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil canser yn ein labordai.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Ymchwil Meddygol Cydweithrediadol Caerdydd Tsieina (CCMRC)

Ymchwil Meddygol Cydweithredol Caerdydd Tsieina yn cerdded Mur Mawr Tsieina ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.
Ymchwil Meddygol Cydweithredol Caerdydd Tsieina yn cerdded Mur Mawr Tsieina ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.