Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Max Planck: Hanfodion Catalysis Heterogenaidd

Bu i gryfder y catalysis heterogenaidd yng Nghaerdydd a’r buddsoddiad sylweddol yn Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) gan y brifysgol ynghyd â pherthnasoedd helaeth â’r Sefydliadau Max Planck (MPIs), Max Planck Gesellschaft (MPG) allweddol sy’n rhagori ym maes catalysis heterogenaidd, olygu bod y CCI wedi gallu gwneud cais cystadleuol am Ganolfan Max Planck ym maes catalysis heterogenaidd yng Nghaerdydd.

O ganlyniad fe sefydlwyd y Ganolfan Max Planck (Max Planck Centre) ar gyfer Hanfodion Catalysis Hetrogenaidd (FUNdamentals of Heterogeneous CATalysis, sef (MPC-FUNCAT) gyda gweithgareddau’n dechrau hanner ffordd drwy 2019. Mae'r ganolfan hon bellach wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH); hyn yn rhan o gynllun datblygu cyfalaf gwerth £300 miliwn y Brifysgol.

Gweithgareddau

Mae tair thema yn perthyn i wyddoniaeth yr MPC-FUNCAT, ac mae strwythur cyffredin yn hwyluso'r ymchwil gydweithredol rhwng y tri Sefydliad Max Planck (Max Planck Gesellschaft – yn benodol yn Sefydliad Max Planck ar gyfer Trosi Ynni Cemegol (CEC), Sefydliad Fritz Haber y Max Planck Gesellschaft (FHI) a'r Max-Planck-Institut für Kohlenforschung (KOFO), a'r CCI.

Mae strwythur sefydliadol yr MPC-FUNCAT i'w weld isod. Mae wedi'i drefnu o gwmpas y tri prif faes gwyddonol;

  1. O'r safle unigol i’r gronyn.
  2. Defnyddio Asetylen yn borthiant ar gyfer cynhyrchu cemegion.
  3. Pwysigrwydd dynameg.
MPC-FUNCAT organisational structure

Mae oddeutu 20-25 o ymchwilwyr yn rhan o MPC-FUNCAT, o’r partneriaid CCI ac MPG fel ei gilydd. Yn ystod cyfnod cyntaf y gwaith ni fu’n bosib cyfnewid personél yn sgîl pandemig SARS-CoV-2. Fodd bynnag, o'r cychwyn cyntaf, gwnaethom sefydlu ymchwil cydweithredol o ran pob un o'r tair thema gan gyfnewid samplau catalyddion a data ymchwil. Ym mis Ebrill 2022 cynhaliwyd ein cyfarfod ymchwil rhyngweithiol cyntaf yn yr FHI Berlin.

Roedd dros 40 o gyfranogwyr yn bresennol yn y cyfarfod ac o ganlyniad rydym wedi bod yn cyfnewid staff ers hynny, yn rhan o'n hymchwil ar y cyd. O ganlyniad i’r cyd-drafodaethau ym Merlin, bu’n bosib i’r uwch dîm MPC bennu ar eu prif gyfeiriadau ymchwil, ac o ganlyniad cyhoeddwyd Erthygl Viewpoint ar weithgareddau'r MPC FUNCAT yn Angewandte Chemie ar-lein ym mis Tachwedd 2022.

Digwyddiad 2023

Fis Mawrth 2023 bydd y digwyddiad i nodi bod MPC-FUNCAT ar agor, digwyddiad a oedd fod i ddigwydd yn flaenorol, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd; bydd Llywyddion Prifysgol Caerdydd a'r MPG yn bresennol. Yn dilyn hyn bydd cynhadledd wyddonol yn cael ei chynnal dros ddeuddydd gyda dros 40 o aelodau ymchwil y ganolfan.

Bydd darlithoedd ar gyfer holl aelodau’r gynhadledd yn cael eu cyflwyno gan Beatriz Roldán Cuenya (FHI), Serena DeBeer (CEC), Matthias Scheffler (FHI-NOMAD) a Stuart Talyor (CCI), a bydd darlithoedd yn cael eu cyflwyno hefyd gan fyfyrwyr ôl-raddedig a staff ymchwil ôl-ddoethurol.