Ewch i’r prif gynnwys

Arloesi Gofal Iechyd

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae partneriaeth sy'n mynd i'r afael â HIV yng Nghymru trwy gymhwyso dilyniannu DNA cyflymach i brofion cleifion torfol.

Trawsnewid triniaeth HIV

Laboratory work
Laboratory work

Wedi'i datblygu gan Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW), mae'r system yn dod â manteision i bob claf HIV a TB yng Nghymru.

Ymunodd Dr Thomas R. Connor, arweinydd y grŵp ymchwil Microbiomau, Microbau a Gwybodeg (MMI) ym Mhrifysgol Caerdydd, â PHW i gymhwyso genomeg - yr astudiaeth o lasbrint genetig organeb - i greu gwasanaeth diagnostig genomig clinigol HIV cenedlaethol fel rhan o Bartneriaeth Genomeg Cymru, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cydweithrediad yn manteisio ar Ddilyniannu’r Genhedlaeth Nesaf (NGS) - ffordd gyflymach a rhatach o ddilyniannu RNA/DNA - trwy ei gymhwyso i ddatblygu a mabwysiadu profion mwy cyflym a chywir ar gyfer HIV a TB sy'n helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y cyffuriau cywir.

Mae dros 2,500 o gleifion HIV yng Nghymru, gyda 100-200 o ddiagnosau newydd bob blwyddyn, ac mae pob un ohonynt yn dibynnu ar NGS ar gyfer pennu math i feirysau. Mae’r ymchwil arloesol hon, dan arweiniad Grŵp MMI Prifysgol Caerdydd, wedi cymhwyso NGS i iechyd y cyhoedd am y tro cyntaf, gan alluogi PHW i gynnig gofal gwirioneddol bersonol i bob claf HIV a TB yng Nghymru gyda chanlyniadau rhagorol.

Dr Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cais gofal iechyd ehangach

Yn ogystal â phrofion genomig newydd, datblygodd y bartneriaeth system well ar gyfer olrhain feirws y Ffliw - gan gyflwyno system sy'n darparu un o'r systemau cyflymaf yn y byd ar gyfer adrodd am enomeg y ffliw. Mae'r dull yn helpu'r GIG yng Nghymru i ymateb yn well yn ystod tymor y ffliw ac mae'n cyfrannu at ymdrechion i ddylunio brechlynnau’n fyd-eang.

Mae Dr Connor yn arwain ymdrechion yng Nghymru, gan weithio gyda chydweithwyr yn PHW a Phrifysgol Caerdydd i gymhwyso'r un dulliau i fapio lledaeniad y Coronafeirws fel rhan o brosiect gwerth £20m a gyhoeddwyd gan brif gynghorydd gwyddonol y DU.

Mae Consortiwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK) yn adeiladu'n uniongyrchol ar y gwaith HIV a Ffliw, gyda hyb dilyniannu Cymru COG-UK eisoes wedi dilyniannu, rhannu a dadansoddi mwy na 5,000 o genomau COVID-19 hyd yma. Mae'r gwaith hwn sy'n arwain y byd yn adeiladu ar y cydweithrediad llwyddiannus rhwng PHW a Phrifysgol Caerdydd er mwyn ymateb i bandemig byd-eang. Mae'r gwaith hwn hefyd yn cael effaith wirioneddol yng Nghymru trwy ddarparu dadansoddiad ar gyfer popeth, o ymateb i achosion, i olrhain ymlediad COVID-19 yng Nghymru a'r DU.