Pam gweithio gyda ni?
Os ydych chi eisiau meithrin talent eich gweithlu, gwneud defnydd o dechnoleg newydd neu gael gafael ar ein hymchwilwyr medrus, gallwn eich helpu i lwyddo ym myd busnes.
Mae gennym berthynas hir-dymor â chwmnïau lleol bach, cwmnïau byd-eang, sefydliadau llywodraethol ac elusennau. Maent oll wedi elwa o'n sgiliau, technoleg a gallu ymchwil.
Talent byd-eang

Mae ein hymchwilwyr wedi gweithio gyda busnesau a'r trydydd sector i gael effaith fyd-eang yn cynnwys ail-lunio'r ffordd mae'r BBC yn adrodd newyddion, gwella gwaredu gwastraff niwclear a throbwyntiau mewn geneteg.
Rydym yn un o'r 20 prifysgol orau yn y DU, ac fe gadarnhaodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 fod 90% o'n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Prif gyfrannwr
Mae'r Brifysgol maint tref fechan gyda throsiant o tua £400m y flwyddyn. Mae cannoedd o'n technolegau a'n cyfleusterau ymchwil niferus yn barod i'ch helpu chi gyflawni eich nodau. Rydym hefyd yn llogi llety a chyfleusterau cynadledda.
Rydym yn aelod o GW4, sy'n dod â phedair prifysgol ymchwil blaenllaw De Orllewin Lloegr a Chymru at ei gilydd gyda throsiant cyfunol o fwy na £1biliwn. O ganlyniad, mae gennym fynediad i fwy o gyfleusterau ac arbenigedd ategol.
Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi'r DU, ac amcangyfrifir mai bron £3.7 biliwn oedd cyfanswm ein heffaith economaidd ar y DU yn 2020-21 — pan oedd y pandemig yn ei anterth.
Tîm ymroddedig ar gyfer ymgysylltu â busnes
Gwyddom fod anghenion busnes pawb yn wahanol. A bydd ein tîm ymgysylltu â busnes yn teilwra'r gwasanaethau i ddiwallu eich anghenion. Gallwn ddod ag atebion i'ch heriau a'ch helpu chi i gyflawni eich busnes a'ch nodau strategol.
O brosiectau tymor byr fel darganfod atebion uniongyrchol i broblemau gweithgynhyrchu neu weithredol, i gymorth gyda phrosiectau tymor hir ar wella proses, dyma'r brifysgol gall gefnogi eich busnes.
Os hoffech chi weithio gyda ni, cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn ni eich helpu.
Darganfyddwch sut y gallwn ateb eich anghenion.