Cynhadledd llais Caerdydd
- Tuesday 9 July 2024, 09:30 - 14:30
- Only available in Welsh
Mae'r dirwedd newyddiadurol a chyfryngau ar gyfer pobl ifanc eisoes wedi symud i lwyfannau digidol. Beth mae hyn yn golygu i ddyfodol cymdeithas, i bobl ifanc ac i Gymru?
Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth lunio sut mae unigolion ifanc yn cael eu newyddion a gwybodaeth, ac yn aml yn arwain at bryderon am wybodaeth ffug, yn ogystal â phryderon am ddiogelwch pobl ifanc.
Fe fydd cynhadledd Llais Caerdydd yn cyflwyno eich disgyblion i nifer o brif bynciau'r maes newyddiadurol a'r cyfryngau yn 2024.
Ydyn ni'n gallu dibynnu ar newyddiaduraeth Tik Tok ac Instagram?
Sut dylem gyfathrebu a pharchu pobl ar lwyfannau digidol?
Ac yw'r byd digidol yn mynd i alluogi i'r iaith Gymraeg ddatblygu a thyfu?
Rydym yn cynnig:
- Sesiwn cyfnos i athrawon yn Mai/Mehefin ar Teams, ar ddatblygu cynnwys Cymraeg digidol gyda phobl ifanc
- 15 lle yn y gynhadledd i ddisgyblion blwyddyn 10 (ac athrawon) o Gaerdydd a RCT
- Grantiau trafnidiaeth i ysgolion o du allan i Gaerdydd
About the organiser
This activity is organised by Academi Gymraeg a JOMEC Cymraeg. Contact Catrin Jones at academi@caerdydd.ac.uk for more details.
How to book
Cysylltwch erbyn 30 Ebrill 2024, i sicrhau lle i’ch ysgol yn y gynhadledd a mynegi eich diddordeb i fynychu’r sesiwn cyfnos i athrawon.
This activity is free
- JOMEC, 2 Sgwar Canolog
Audience
Teacher supervision is required.