Arian Ewropeaidd a’r Gwyddorau Cymdeithasol: Seminar Ymarferol
Starts: 17 November 2010
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd yn eich gwahodd i ddigwyddiad sy’n cwmpasu pob gwyddor gymdeithasol:
Arian Ewropeaidd a’r Gwyddorau Cymdeithasol: Seminar Ymarferol
9.00 am - 2.00 pm, Dydd Mercher 17eg Tachwedd 2010
Siambr y Cyngor, Adeilad Morgannwg, Rhodfa Brenin Edward VII, Caerdydd
Mae siaradwyr allweddol o bob cwr o’r Brifysgol a thu hwnt wedi cael eu gwahodd i gyfranogi yn y digwyddiad - gweler y rhaglen lawn am fanylion.
Nod y digwyddiad hanner diwrnod hwn yw datblygu dealltwriaeth o’r cyd-destun strategol Ewropeaidd a’r offer ymarferol i’ch galluogi i ddatblygu ceisiadau am arian Ewropeaidd, dod o hyd i bartneriaid Ewropeaidd a chael gafael ar gyllid ymchwil Ewropeaidd.
Prif Gynulleidfaoedd
- Cydweithwyr o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI);
- Partneriaid o Ganolfannau Ymchwil SOCSI;
- Cydweithwyr o ysgolion eraill ym Mhrifysgol Caerdydd a chanddynt ddiddordeb mewn gwneud ceisiadau mewn partneriaeth.
Gofynnir i’r cynadleddwyr nodi unrhyw syniad am arian ymchwil Ewropeaidd sydd ganddynt ar eu ffurflen gofrestru (islaw). Yna caiff eu syniadau eu rhannu â phob cynadleddwr ym mhecynnau gwybodaeth y digwyddiad.
Mae croeso i bawb - os hoffech fynychu, llenwch y ffurflen gofrestru islaw a’i dychwelyd at (WatkinsD2@cardiff.ac.uk) cyn gynted â bo modd.
Fersiwn Saesneg / English Version
Other information
Open To: Public
Staff and Students
