Ewch i’r prif gynnwys

Carreg filltir o bwys wrth adeiladu canolfan delweddu gwerth £44m sy’n ymchwilio i’r ymennydd

30 Ebrill 2015

Building of new Cubric block, construction site

Mae gwaith adeiladu canolfan delweddu newydd gwerth £44m ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n ymchwilio i'r ymennydd (CUBRIC), fydd yn arwain Ewrop wrth helpu gwyddonwyr i ddeall achosion cyflyrau'r ymennydd, wedi cyrraedd carreg filltir o bwys.

Mae seremoni wedi'i chynnal i ddathlu'r cynnydd hyd yma wrth greu cartref newydd ar gyfer arbenigedd ac offer o'r radd flaenaf o ran mapio'r ymennydd ar gampws arloesedd y Brifysgol.

Ymunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, ag uwch-gynrychiolwyr o'r Brifysgol i ddathlu'r ffaith fod cwmni adeiladu BAM wedi cwblhau ffrâm strwythurol yr adeilad ar 30 Ebrill.

Bydd gwaith ymchwil a gaiff ei gynnal yn y ganolfan, sydd i fod i agor yng ngwanwyn 2016, yn helpu gwyddonwyr i ddeall achosion cyflyrau'r ymennydd megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol.

Meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: "Mae gweld y weledigaeth gychwynnol yn cael ei gwireddu yn fraint anhygoel, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir fawr hon wrth adeiladu CUBRIC.

"Y ganolfan niwroddelweddu hon, sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil, fydd y fwyaf o'i bath yn y DU, a bydd cyfuniad o offer niwroddelweddu yno nad ydynt ar gael yn unman arall yn Ewrop ar hyn o bryd.

"Mae'r staff talentog yn CUBRIC wedi bod yn datblygu'r ddamcaniaeth o sut i wneud mesuriadau newydd a mwy ystyrlon yn yr ymennydd byw, ond mae'r dechnoleg wedi'u rhwystro.

"Mae canolfan newydd CUBRIC yn cydosod y dechnoleg ddiweddaraf sydd bellach yn ein galluogi i roi'r datblygiadau damcaniaethol hyn ar waith. Does dim dwywaith fod hyn yn hebrwng cyfnod newydd ar gyfer niwroddelweddu.

"Gallai'r ymchwil a gaiff ei chynnal yma gael effaith hynod gadarnhaol ar fywydau pobl ledled y byd."

showing brain imaging equipment on patient
Cubric site, builders

Bydd y CUBRIC newydd bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau delweddu presennol y Brifysgol i ymchwilio i'r ymennydd, a bydd yn dod â staff o wahanol adrannau ynghyd o dan un to, gan arwain at fwy o gydweithio ac arloesi.

Meddai'r Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd: "Mae CUBRIC yn enghraifft wych o gydweithio agos rhwng llawer o bobl o fewn Prifysgol Caerdydd a'r cymunedau ymchwil feddygol a delweddu yn gyffredinol.

"Bydd gwyddonwyr o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn cydweithio i gynyddu ein dealltwriaeth o'r ymennydd – dim ond effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar gleifion.

"Rhaid i ni hefyd gydnabod cefnogaeth llawer o gyrff ariannu sy'n amlwg yn deall manteision adeiladu cyfleuster o'r fath sydd o'r radd flaenaf.

"Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Prifysgol Caerdydd yn ail safle yn y DU am ei hymchwil i'r meddwl, yr ymennydd a niwrowyddoniaeth.

"Bydd cyfleuster newydd CUBRIC yn atgyfnerthu ein lle fel un o'r sefydliadau ymchwil mwyag blaenllaw yn Ewrop yn y maes hwn."

Mae rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym meysydd mapio'r ymennydd, niwrowyddoniaeth, ymchwil glinigol a geneteg, yn gweithio yn y Brifysgol, ac mae'n cael ei chydnabod yn eang am ei rhagoriaeth ymchwil yn y maes hwn.

Mae tîm CUBRIC eisoes wedi cael £15.6m o arian a grantiau i dalu am y costau adeiladu a'r offer ddiweddaraf gan sefydliadau sy'n cynnwys Sefydliad Wolfson, Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a'r Cyngor Ymchwil Feddygol.

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £6m hefyd at ddatblygu campws arlosedd y Brifysgol ar Heol Maendy, gan gynnwys CUBRIC.

screen showing a brain scan with 2 people looking at it
Cubic Ceremony with builders and minister for health


Meddai'r Athro Drakeford: "Bydd y cyfleuster hwn yn dod ag academyddion rhagorol Prifysgol Caerdydd a'r dechnoleg ddiweddaraf yn y maes hwn ynghyd. Rwy'n credu y bydd yn helpu i ddenu mwy o arbenigedd i Gymru i gynnal ymchwil arloesol."

Cafodd y CUBRIC newydd ei dylunio gan y cwmni pensaernïaeth byd-eang IBI Group, a BAM sy'n ei hadeiladu.

Dywedodd Tim Chell, Cyfarwyddwr Adeiladu, BAM Construction: "Mae'r seremoni hon sy'n dathlu cwblhau'r strwythur yn ffordd wych o ddathlu'r cydweithrediad ardderchog sydd wedi ein galluogi i gwblhau'r prosiect llwybr carlam hwn yn gynnar. 

"Yn dilyn nifer o gyfarfodydd cydlynu gyda'r tîm ehangach a phrif gyflenwyr arbenigol Prifysgol Caerdydd, rydym nawr yn dod ymlaen yn dda gyda'r gwaith gosod mewnol. 

"Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi galluogi BAM i barhau i gefnogi'r agenda leol ac rydym yn falch ein bod wedi rhoi 24 o'r 32 gorchymyn is-gontract (75%) o fewn 30 milltir i'r safle."

Rhannu’r stori hon