Ewch i’r prif gynnwys

Prawf damwain car ar gyfer meddygon

29 Ebrill 2015

Medical students help injured person in crash course

Myfyrwyr meddygol o Gymru'n cael hyfforddiant damweiniau ffordd difrifol

Yr wythnos ddiwethaf, profwyd myfyrwyr meddygol i'r eithaf wrth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru greu sefyllfa damwain ffordd ddifrifol mewn ardal wledig yn Sir Frycheiniog.

Mewn sawl senario damwain, roedd rhaid i fyfyrwyr ail flwyddyn unig gwrs meddygaeth israddedig Cymru drin mathau gwahanol o anafiadau trawmatig a achosir gan ddamweiniau car a beic modur.

Roedd myfyrwyr yn dysgu sut i asesu anafiadau'r claf, ei roi yn y safle cywir a'i symud yn ddiogel er mwyn ei gludo i ganolfan trawma.

Mae'r ymarfer hwn sy'n efelychu bywyd go iawn yn un o sawl ffordd arloesol o ddysgu a gyflwynwyd gan yr Ysgol Meddygaeth fel rhan o'r rhaglen gradd israddedig newydd.

Mae'r diwrnod yn rhan o fenter hyfforddi ehangach i addysgu myfyrwyr am ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru wledig, gan gynnwys yr heriau yn sgîl pellter a dulliau o asesu trawma gwledig.

"Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i brofi rhai o'r gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng meddygaeth drefol a gwledig," meddai Carla-Marie Grubb, un o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd.

"A minnau bob amser wedi byw mewn ardaloedd trefol iawn, roedd yn caniatáu i mi werthfawrogi rhai o'r heriau sy'n wynebu meddygon sy'n gweithio mewn amgylchedd gwledig, yn enwedig o ystyried y pellter maith rhwng cyfleusterau meddygol.  

"Roedd y senario argyfwng hefyd yn gyfle gwych i ni roi ein gwybodaeth meddygaeth frys ar waith, a dechrau deall sut mae elfennau gwahanol y gwasanaethau brys yn cydweithio er mwyn delio â sefyllfaoedd brys yn effeithiol." 

Yn ôl Dr Frances Gerrard, Uwch-ddarlithydd Clinigol ac Arweinydd Cyswllt Gofal Sylfaenol Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:

"Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi ymrwymo i gefnogi hyfforddiant meddygol sy'n cynnwys holl gymunedau ac ardaloedd Cymru, gan gynnwys y gymuned wledig ehangach. 

"Mai rhagor o gyfleoedd ar gael drwy gydol y cwrs i fyfyrwyr gymryd rhan yng ngofal meddygol cymunedau gwledig, a nod y lleoliad hwn yw annog diddordeb myfyrwyr yn y lleoliadau eang y gallwn eu cynnig yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru." 

Prif amcan cwricwlwm C21 newydd y Brifysgol yw dangos cleifion yn y gymuned i fyfyrwyr meddygol yn fuan, er mwyn rhoi profiad dysgu clinigol amrywiol iddynt.

Roedd aelodau o'r Gwasanaeth Ambiwlans, meddygon lleol a'r gwasanaeth achub mynydd wrth law i gynnig arweiniad arbenigol i'r myfyrwyr drwy gydol y dydd.

Rhannu’r stori hon