Ewch i’r prif gynnwys

Syr Mansel Aylward wedi'i gyhoeddi fel Cadeirydd Newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

21 Medi 2017

Sir Mansel Aylward

Mae’r Athro Syr Mansel Aylward, cyn-gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig.

Wedi ei lansio yn 2014, mae'r Hwb Gwyddorau Bywyd wedi dod yn ganolbwynt y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Gan ddod ag academyddion, gwasanaethau busnes a chlinigol a phroffesiynol at ei gilydd, mae'r hwb yn cynnwys pob gweithgarwch o fewn y sector, o ariannu i gymorth busnes i ddatblygu rhyngwladol.

Fel rhan o'i benodiad newydd, bydd yr Athro Aylward yn arwain ar ddatblygu gweledigaeth a chenhadaeth newydd ar gyfer yr Hwb, gan gynnwys darparu cyfleoedd i ehangu cwmpas yr Hwb Gwyddorau Bywyd a sicrhau bod cysylltiad rhwng y GIG a Diwydiant.

“O nerth i nerth”

Wrth groesawu'r Cadeirydd newydd, dywedodd Julie James: “Mae'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar, gan gyflawni llawer mwy na'r disgwyl ar y llwyfan rhyngwladol ac mae bellach werth oddeutu £2 biliwn i economi Cymru.

“Yr hyn sy'n allweddol i'r llwyddiant hwnnw ac i sbarduno arloesedd ar draws y sector fu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf ac rwy'n falch bod yr Athro Syr Mansel Aylward wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn Gadeirydd ei Fwrdd...”

“Mae ganddo brofiad helaeth o weithio yn y sector Gwyddorau Bywyd ar draws y byd academaidd, iechyd a busnes, a bydd yn chwarae rhan allweddol drwy adeiladu ar lwyddiant yr Hwb hyd yma, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd yr Hwb yn datblygu o dan ei arweiniad.”

Julie James AC Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Wedi treulio ei yrfa yn gweithio ar draws y sector, daw yr Athro Aylward â gwybodaeth a phrofiad i'r swydd.

Meddai: “Mae'n anrhydedd imi ac rwyf yn falch iawn o gael fy mhenodi yn Gadeirydd yr Hwb Gwyddorau Bywyd...”

“Daw y penodiad hwn ar amser tyngedfennol pan fydd Bwrdd yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn datblygu gweledigaeth a chenhadaeth newydd sy'n gorfod cynnwys datblygu cyfleoedd i ehangu cwmpas yr Hwb a chreu manteision o gael y GIG yng Nghymru i gysylltu â'r diwydiant a'r byd academaidd.”

Syr Mansel Aylward Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

“Hefyd, mae'n rhaid i'r Hwb ffynnu fel elfen allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru i gyflymu gweithgarwch datblygu economaidd o fewn y sector gwyddorau bywyd, trwy wneud mwy i annog ystod eang o sefydliadau ar draws y diwydiant, academia, GIG Cymru a buddsoddwyr i gydweithio i sefydlu Cymru fel un o'r amgylcheddau gorau ar y llwyfan rhyngwladol o ran arloesedd, menter ac arfer gorau yn y sector hwn.

“Heb anghofio fy mod hefyd yn ei ystyried yn bwysig i sicrhau bod amcanion a nodau yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn cyd-fynd â nifer o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddaf yn ymrwymo ac yn ymdrechu fel Cadeirydd i gyflawni'r amcanion hyn ac yn awyddus iawn i geisio arwain a llywodraethu'r Bwrdd a'i hybu i sicrhau llwyddiant yr Hwb Gwyddorau Bywyd gyda'i hamcanion newydd.”

Bydd yr Athro Aylward yn dechrau ar ei swydd newydd fel Cadeirydd ym mis Hydref 2017.

Rhannu’r stori hon

Creu newid sylweddol i gyflymu'r ffordd gall arloesedd clinigol wella gwasanaethau iechyd.