Nid armadâu mynyddoedd iâ oedd yn achosi oeri Gogledd yr Iwerydd

17 Ebrill 2015

Iceberg in middle of sea water

Mae'n debygol nad armadâu o fynyddoedd iâ oedd achos digwyddiadau sydyn o oeri yng Ngogledd yr Iwerydd dros y 440,000 o flynyddoedd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw yn Nature.

Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu mai dirgryniadau o fynyddoedd iâ a achosodd newid sydyn yn yr hinsawdd yn ystod y cyfnod rhewlifol diwethaf trwy gyflwyno dŵr glân i wyneb y môr a newid llifoedd môr, y gwyddom eu bod yn chwarae rôl bwysig iawn yn hinsawdd llawer o ranbarthau'r Ddaear.

Fodd bynnag, mae canlyniadau newydd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno naratif i'r gwrthwyneb ac yn awgrymu bod mynyddoedd iâ yn gyffredinol wedi cyrraedd yn rhy hwyr i gychwyn oeri amlwg ar draws Gogledd yr Iwerydd.

Mae newid sydyn yn yr hinsawdd, a nodweddir gan newidiadau rhwng amodau cynnes ac oer ar draws Gogledd yr Iwerydd, yn nodwedd dreiddiol o'r cyfnod Pleistocenaidd Hwyr – y cyfnod diweddaraf o gylchoedd rhewlifol ailadroddol.  

Mae'n ymddangos bod amodau eithafol o oer yng Ngogledd yr Iwerydd yn gysylltiedig â gwasgaru mynyddoedd iâ sydd wedi torri i ffwrdd o haenau iâ sy'n ffinio Gogledd yr Iwerydd. Ond, hyd yma, ni fu consensws ymhlith gwyddonwyr yr hinsawdd o ran a oedd torri a gwasgaru mynyddoedd iâ yn achos neu'n ganlyniad o newid yn yr hinsawdd.  

Defnyddiodd tîm o ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a Môr Prifysgol Caerdydd graidd gwaddod a adferwyd o Ogledd-ddwyrain yr Iwerydd, ychydig i'r de o Wlad yr Iâ, i adeiladu cofnodion o dymereddau newidiol wyneb y môr a symud darnau o fynyddoedd iâ dros y 400,000 o flynydodedd diwethaf.  "Gwelsom lawer o enghreifftiau o ddigwyddiadau oeri sydyn ac roedd llawer o'r rhain yn cyd-fynd â chynnydd mewn gweithgarwch mynyddoedd iâ," dywedodd Dr Stephen Barker, a arweiniodd yr astudiaeth. "Fodd bynnag, o bwysigrwydd mawr, gwelsom, ym mwyafrif yr achosion, fod mynyddoedd iâ wedi ymddangos ar ôl i'r oeri ddigwydd, sy'n golygu bod y mynyddoedd iâ wedi cyrraedd yn rhy hwyr i fod wedi cychwyn oeri ar y safle hwn – er ei fod yn bosibl eu bod wedi cynyddu neu estyn yr amodau oer hyn.

"Yn wir, mae ein canlyniadau'n awgrymu bod digwyddiadau oeri sydyn wedi dod cyn cyfnodau o oeri mwy graddol, sy'n awgrymu y dylid ystyried y disgyniad i amodau oerach fel ymateb aflinol i newid mwy graddol ar draws Gogledd yr Iwerydd.

"Rydym yn dangos bod llawer i'w ddysgu eto am newid sydyn yn yr hinsawdd. Yn benodol, rydym wedi dangos bod angen ailasesu syniad sylfaenol y mae sawl astudiaeth flaenorol wedi'u seilio arno. Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod angen ystyried mecanweithiau eraill a bod angen i fodelau hinsawdd allu efelychu'r newidiadau blaenorol hyn os ydym am fod yn hyderus yn ein gallu i ragweld newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodool."

Mae casgliadau'r ymchwilwyr yn gyson â chanlyniadau astudiaeth sy'n torri tir newydd a gyhoeddwyd ym 1995, a amlygodd y gallai torri a gwasgaru'n helaeth fynyddoedd iâ fod yn ganlyniad o newid hinsawdd yn hytrach na'r achos. Fodd bynnag, mae tystiolaeth uniongyrchol sy'n cefnogi'r ddamcaniaeth hon wedi bod yn weddol brin tan nawr.

Yng ngham nesaf eu hymchwil, bydd Dr Barker a'i dîm yn estyn eu hymchwiliadau nôl bron 2 filiwn o flynyddoedd. Bydd hyn yn galluogi'r tîm i ailadeiladu natur newid sydyn yn yr hinsawdd trwy gydol llawer o'r cyfnod Pleistocenaidd, a datgelu cliwiau i ddylanwadau newid sydyn ar amserlenni hwy.

Ariannwd yr ymchwil gan Leverhulme Trust (DU), Global Climate Change Foundation (UDA) a'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).

Rhannu’r stori hon