Ewch i’r prif gynnwys

Cryfhau dyfodol newyddiaduraeth Gymraeg – Lansiad cwrs newydd Ysgol y Gymraeg

13 Mawrth 2015

Welsh language journalism

Pwysleisiwyd y galw am newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith yn ystod trafodaeth banel ar ddyfodol newyddiaduraeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

Menna Richards, Cyn-Reolwr-Gyfarwyddwr HTV Wales, a Chyfarwyddwr BBC Cymru Wales hyd at 2011 a oedd yn cadeirio'r panel o olygyddion a newyddiadurwyr Cymraeg.

Roedd y digwyddiad yn nodi lansio gradd gydanrhydedd BA Cymraeg a Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu y bydd gan fyfyrwyr, am y tro cyntaf, gyfle i astudio'r ddau bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y radd newydd, sydd wedi cael ei llunio i ymateb i'r galw mawr am newyddiadurwyr sydd â sgiliau newyddiadurol a sgiliau iaith, yn cyfuno dadansoddiad a manylder academaidd â chyfleoedd i gael profiad ymarferol, gan gynnwys profiad gwaith perthnasol.

Darperir y radd gan Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd ac mae'n cael ei chefnogi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd Menna Richards, "Bydd croeso mawr i'r radd newydd Cymraeg a Newyddiaduraeth ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr. Mae galw mawr am raddedigion a chanddynt sgiliau newyddiadurol ac ieithyddol rhagorol.

"Mae Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ar y brig mewn sawl maes eisoes ac mae gan Ysgol Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Caerdydd enw da ledled Prydain. Mae gweld y ddwy Ysgol yn cyd-weithio - drwy nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn warant o gynllun gradd o'r safon uchaf."

Dywed yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: "Am y tro cyntaf, mae cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ar y cyd diolch i'r cwrs newydd ac unigryw hwn. Gyda thwf y sector cyfryngol a newyddiadurol, mae galw mawr am raddedigion Cymraeg eu hiaith sy'n fedrus ar lafar ac yn ysgrifenedig ac sydd â phrofiad a dealltwriaeth o newyddiaduraeth.

"Roedd hi felly yn ddatblygiad naturiol i ni yn Ysgol y Gymraeg weithio ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol i gynnig y cwrs newydd hwn. Rydym yn diolch i Menna Richards am gytuno i siarad am ei phrofiadau hi a'n helpu ni i lansio'r cwrs newydd. Diolch hefyd i'r panel am gyfrannu eu lleisiau nhw i sgwrs bwysig am ddyfodol newyddiaduraeth Gymraeg."

Y panelwyr oedd:

Betsan Powys – Golygydd Rhaglenni, Radio Cymru

Vaughan Roderick – Golygydd Materion Cymreig, BBC

Siân Morgan – Gohebydd ac Is-olygydd, Y Byd ar Bedwar

Dylan Iorwerth – Cyfarwyddwr Golygyddol, Golwg

Rhannu’r stori hon