Ewch i’r prif gynnwys

Dull arloesol o helpu gwlad i benderfynu ar anghenion ynni

9 Ionawr 2015

Bangladesh

Mae'r Brifysgol wedi datblygu model cyfrifiadurol arloesol sydd wedi'i seilio ar y we i helpu un o wledydd mwyaf poblog y byd i fynd i'r afael â'i hanghenion ynni.

Disgwylir i dwf economaidd gynyddu'r galw am ynni ym Mangladesh, ond mae'r cronfeydd domestig o danwyddau confensiynol yn lleihau.

Bydd model cyfrifiadurol agored, rhyngweithiol yn galluogi llunwyr polisi ym Mangladesh – neu unrhyw un arall – i ystyried dulliau gwahanol o fynd i'r afael â pholisi ynni'r wlad ar gyfer y 35 mlynedd nesaf.

Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr arbrofi ag ystod o bolisïau ynni ar yr un pryd â chyfrifo, er enghraifft, yr effeithiau ar yr amgylchedd, ac yn enwedig gallu'r wlad i gynhyrchu digon o fwyd.

Bydd yn taflu goleuni ar yr anawsterau a'r cyfnewidiadau a wynebir wrth ystyried anghenion ynni'r wlad hyd at 2050.

Mae Cyfrifydd Llwybrau Ynni Bangladesh 2050 (BD2050) wedi'i ddatblygu gan dîm a arweinir gan Dr Monjur Mourshed, o'r Ysgol Peirianneg.

Mae'r gwaith wedi'i gefnogi gan y Gweinidog Pŵer, Ynni ac Adnoddau Mwynau ym Mangladesh, yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn y Deyrnas Unedig ac Uchel Gomisiwn Prydain yn Dhaka, Bangladesh.

Dywedodd Dr Mourshed: "Mae BD2050 wedi'i gynllunio i alluogi'r Llywodraeth a'r cyhoedd i archwilio dewisiadau ar gyfer llwybrau ynni, economi ac allyriadau lefel uchel a'u heffeithiau ar ddefnydd tir, trydan, sicrwydd ynni a bwyd."

Dywedodd fod dau fformat gwahanol o'r model wedi'u rhyddhau ar ffurf "ffynhonnell agored" – sy'n golygu y gall unrhyw un gael mynediad atynt a'u haddasu – er mwyn annog cyfranogiad ehangach a mwy o ymchwil a datblygu.

Mae Bangladesh, sydd â phoblogaeth o fwy na 150 miliwn, yn wynebu heriau o ran datblygu ei seilwaith ynni.

Mae Bangladesh wedi bod yn tyfu 5% y flwyddyn yn ystod y degawd diwethaf a disgwylir iddi fod yn wlad incwm canolig erbyn 2021. Felly, mae sicrhau mynediad at ffurfiau cyfleus o ynni yn hanfodol ar gyfer datblygu economaidd a lliniaru tlodi.

Mae cronfeydd tanwydd yn lleihau ond mae'r galw am ynni'n cynyddu.

Dywedodd Jan Kiso, o Adran Ynni a Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig: "Mae dadansoddiad arloesol 2050 yn dangos ym mhob senario yn y dyfodol y bydd twf digynsail yn y galw am ynni, a gymhlethir gan dwf yn y boblogaeth a'r economi.

"Bydd sicrwydd ynni'n cael ei herio gan yr angen i gadw cymaint o dir amaeth â phosibl i gynhyrchu bwyd yn hytrach na thyfu cnydau bioynni.

"Mae pwysau yn sgil trefoli, prinder tir, ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn debygol o gyfyngu ar y dewis o lwybrau."

Lansiwyd y cyfrifydd mewn digwyddiad yng Nghynhadledd Gobeshona ar Ymchwil ar y Newid yn yr Hinsawdd yn Dhaka, Bangladesh.

Yn ystod digwyddiad lansio, dywedodd Uchel Gomisiynydd Prydain, sef Robert Gibson, fod y cyfrifydd yn "gyfle i bob sector o gymdeithas ddylanwadu, trafod a lobïo dros y math o ddyfodol y dymunant ar gyfer eu gwlad ac, yn bwysicaf, ar gyfer eu plant a thu hwnt".

Dywedodd Dr Saleemul Huq, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol ar y Newid yn yr Hinsawdd a Datblygiad, fod y cyfrifydd yn "offeryn rhagorol i helpu Bangladesh i gynllunio llwybr datblygu carbon isel".

Rhannu’r stori hon