Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn y Gymraeg ac ieithoedd modern ar y brig yn y DU o ran ei heffaith

18 Rhagfyr 2014

REF - Modern Languages

Mae ymrwymiad Caerdydd i hybu ymchwil i iaith wedi'i gydnabod am ei ansawdd nodedig ac wedi cael y marciau uchaf am ei effaith yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (yr REF), sef ymarfer sy'n asesu ansawdd ymchwil sefydliadau addysgu uwch y DU.

Mae canlyniadau REF 2014, a gyhoeddwyd heddiw (18 Rhagfyr), yn datgelu bod yr ymchwil gan Ysgol y Gymraeg a'r Ysgol Ieithoedd Modern yn yr uned asesu Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth wedi'i gosod yn 7fed yn y DU am ei hansawdd, a bod 100 y cant o'r ymchwil a gyflwynwyd wedi cael y radd uchaf bosibl, 4*, am ei heffaith. Mae iddi, felly, gyrhaeddiad ac arwyddocâd nodedig. Mae hynny'n gosod Caerdydd yn gyntaf yn y DU am effaith ei hymchwil yn y maes hwn.

Ar ben hynny, mae ansawdd yr ymchwil a gyflwynwyd yn rhagori ar gyfartaledd y sector drwy gael sgôr pwyntiau gradd, ar gyfartaledd, o 3.21. Barnwyd bod 84 y cant o'r ymchwil yn arwain y byd ac yn rhyngwladol-ragorol ac felly'n ennill graddau 4* a 3*.

Mae'r ymchwil yn Ysgol y Gymraeg yn cyfuno iaith a llenyddiaeth Gymraeg â chanolbwynt clir ar gymhwyso polisi. Mae canlyniadau'r REF yn cadarnhau safle'r Ysgol yn brif gyrchfan i astudiaethau Cymraeg, Cymreig a Cheltaidd yn y DU.

Elfen yn yr ymchwil y cydnabuwyd iddi gael effaith sy'n arwain y maes, yn ôl aseswyr yr REF, oedd cyfieithiad nodedig yr Athro Sioned Davies o chwedlau'r Mabinogion i'r Saesneg. Mae ei hailarchwiliad manwl o'r testun wedi bod yn fodd i gynulleidfaoedd heddiw ddeall sut y byddai hwnnw wedi'i berfformio ac y byddai wedi'i ddeall gan wrandawyr yn yr Oesoedd Canol. Maae hynny wedi arwain at adfer yr arfer o adrodd chwedlau'r Mabinogion ymhlith storïwyr heddiw.

Mae'r cyfieithiad hefyd wedi'i ddefnyddio i ddatblygu llwybrau i dwristiaid, fel Llwybr y Twrch Trwyth, ac mae porth gwe ac ap symudol i'r Mabinogion yn cael eu creu i lywio defnyddwyr at fannau a enwir yn y Mabinogion.

Meddai'r Athro Sioned Davies, Athro'r Gymraeg a Phennaeth yr Ysgol: "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod y Gymraeg yng Nghaerdydd yn ddisgyblaeth lewyrchus sy'n cynhyrchu ymchwil flaenllaw mewn meysydd sydd wrth galon y ddisgyblaeth ers tro byd, a hefyd yn agor meysydd newydd o weithgarwch ar y lefel uchaf. Mae'n heffaith ni ar y Mabinogion ac ar bolisi a chynllunio ym maes y Gymraeg yn dangos hynny'n glir."

Mae'r ymchwil amlddisgyblaethol yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cwmpasu meysydd fel theori feirniadol ac athroniaeth, y cof diwylliannol a gwrthdaro, ffilm, astudiaethau addasu a chyfieithu, ac astudiaethau anabledd. Mae'r ymchwil yn estyn ar hyd a lled y byd ac yn amrywio o lenyddiaeth a diwylliannau gweledol y byd Sbaeneg a Phortiwgaleg ei iaith i ddiwylliant poblogaidd Ewrop a nofelau graffig a rôl cyfieithu yn y theatr gyfoes ac ym maes adrodd storïau.

Mae'r ymchwilwyr yn yr Ysgol yn gweithio gyda sefydliadau, fel yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Llenyddiaeth Cymru a chyrff rhaglennu rhyngwladol sy'n ymwneud â diwylliant a'r cyfryngau, i'w helpu i lywio arddangosfeydd, ymgyrchoedd a gweithgarwch yn y cyfryngau.

Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Claire Gorrara: "Ni yw'r unig Ysgol Ieithoedd Modern yn y DU i gael ei lansio dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny'n dangos ymrwymiad y Brifysgol i addysgu, ysgolheictod ac ymchwil mewn ieithoedd modern. Rydyn ni wrth ein bodd â'r canlyniadau eithriadol hyn yn yr REF am eu bod yn adlewyrchu cymuned ymchwil fyw ac arloesol yr Ysgol a'i huchelgais a'i dyheadau i ddatblygu at y dyfodol."

Rhannu’r stori hon