Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn croesawu Cymrodyr Sêr Cymru II

2 Mawrth 2017

Ser Cymru II

Carfan o ddarpar ymchwilwyr ifanc yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer derbyniad arbennig i ddathlu cam diweddaraf rhaglen Llywodraeth Cymru

Cafodd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd o bob cwr o'r byd eu croesawu i Gymru wrth iddynt ddechrau ar gam nesaf rhaglen ar ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y rhaglen gwerth £45m yw cynyddu ffyniant economaidd drwy ddenu'r bobl fwyaf galluog i'r wlad.

Croesawodd Prifysgol Caerdydd ddarpar ymchwilwyr o Tsiena, Seland Newydd ac UDA a byddan nhw'n aros yn y Brifysgol fel rhan o raglen Sêr Cymru II.

Bydd 20 ymchwilydd yn cymryd rhan yn y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi cael £29m o gyllid Ewropeaidd. Byddan nhw'n gweithio'n agos gydag academyddion ar amrywiaeth o brosiectau, megis astudio swyddogaeth yr ymennydd, y defnydd o gelloedd cornbilennol, mynd i'r afael â firws Zika, a dylunio deunyddiau o'r radd flaenaf ar gyfer awyrennau.

Yn nerbyniad croesawu'r garfan ddiweddaraf o ymchwilwyr dawnus Sêr Cymru II yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: "Bydd cynyddu ein galluoedd ymchwil, sydd eisoes yn sylweddol, drwy ddenu talent wych newydd i Gymru yn cynyddu ffyniant economaidd ac yn creu swyddi cyffrous newydd sy'n talu'n dda."

"Partneriaeth go iawn yw Sêr Cymru, sy'n dod â Llywodraeth Cymru, adnoddau Ewropeaidd ac academyddion at ei gilydd. Mae'n creu rhaglen i Gymru sy'n ein rhoi ni ar flaen y gad wrth ddatblygu ymchwil sy'n ceisio mynd i'r afael â phroblemau go iawn fel clefydau dynol, ffynonellau ynni newydd a thechnolegau gweithgynhyrchu deunyddiau arloesol.

"Mae cynyddu ein hadnoddau ymchwil hefyd yn gwneud Cymru'n fwy deniadol ar gyfer derbyn buddsoddiad pellach, ac yn ein helpu i godi ein proffil ar lwyfan rhyngwladol. "Gall ein darganfyddiadau wrth ymchwilio gael eu masnacheiddio. Bydd hyn yn creu mwy o swyddi gwell i Gymru a'r nod yw eu datblygu a'u cadw yma."

Mae Dr Catrin Williams, Cymrawd Sêr Cymru II yn gweithio yn yr Ysgol Peirianneg ac yn astudio sut y mae meysydd electromagnetig yn rhyngweithio â systemau biolegol.

Dywedodd Dr Williams cyn y derbyniad: "Mae fy maes gwaith i yn edrych ar effaith microdonnau ar bethau byw. Gellir dod o hyd i'r microdonnau hyn mewn dyfeisiau cyffredin fel ffonau symudol, Wi-Fi a ffyrnau microdon yn ogystal ag offer datblygedig fel yr offer mewn ysbytai i drin canser ac afiechydon y galon.

"Ar hyn o bryd gellir gweld rhai o effeithiau'r cyfarpar hwn arnom yn glir. Er enghraifft, i wella cyfathrebu, coginio bwyd yn gyflymach a thriniaethau meddygol mwy effeithiol. Yr hyn sy'n llai amlwg yw effeithiau hirdymor cudd y gallai'r microdonnau hyn eu cael arnom, fel newidiadau moleciwlau i sut y mae ein celloedd wedi eu cyfansoddi."

Ychwanegodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams: "Bydd y rhaglen hon yn trawsnewid ein hadnoddau ymchwil yn sylweddol, ac yn rhoi Cymru ar y map fel canolfan darganfyddiadau gwyddonol. Y bobl ifanc yma fydd arweinwyr yfory."

Mae Sêr Cymru II yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen wreiddiol Sêr Cymru a helpodd i greu pedair Cadair Sêr Cymru. Mae dwy o'r cadeiriau hyn ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd - yr Athro Diana Huffaker, Cadair mewn Uwch-Beirianneg a Deunyddiau a'r Athro Yves Barde, Cadair mewn Niwrofioleg.

Rhannu’r stori hon