Ewch i’r prif gynnwys

Llwybr Newydd tuag at Wyddor Gymdeithasol

21 Mehefin 2012

New Pathway to Social Science

Bellach mae gan fyfyrwyr aeddfed lwybr newydd tuag at radd i israddedigion mewn Gwyddor Gymdeithasol yng Nghaerdydd.

Cafodd y llwybr ei gynllunio'n benodol i ateb gofynion myfyrwyr aeddfed. Mae'r flwyddyn gyntaf o astudio yn digwydd yn rhan-amser yng Nghanolfan Caerdydd ar gyfer Addysg Gydol Oes cyn i fyfyrwyr fynd i astudio yn yr Ysgol Gwyddor Gymdeithasol. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ddechrau eu hastudiaethau mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol lle bydd ganddynt diwtor personol a fydd yn eu cynghori drwy'r amser hyd nes iddynt raddio. Cynlluniwyd y llwybr arbenigol i ddarparu oedolion â'r wybodaeth, sgiliau a pharatoad deallusol sydd eu hangen i astudio ar gyfer gradd. Hefyd, bydd unigolion yn elwa ar ddatblygiad addysgol, arweiniad a chymorth oddi mewn i amserlen sy'n rhoi ystyriaeth i ffordd o fyw ac ymrwymiadau oedolion prysur.

Dywedodd Jan Stephens, cydlynydd y Llwybr at Wyddor Gymdeithasol: "Mae'r Llwybr newydd hwn yn gyfle gwirioneddol i fyfyrwyr sydd ag ymrwymiadau a chyfrifoldebau i ddechrau eu gradd trwy astudio'n rhan-amser a chael cyfle hefyd i fanteisio ar ddiwylliant Prifysgol Caerdydd."

Mae gwybodaeth am ariannu ar gael yn yr adran Funding your Learning yn www.cardiff.ac.uk/learn. Mae modd diystyru tâl ar gyfer y rhai sy'n derbyn budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau neu sy'n hawlio credydau treth.

Bydd y Llwybr at Wyddor Gymdeithasol yn dechrau ym mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â Jan Stephens ar StephensJ4@cardiff.ac.uk.

Mae manylion ar gael yn www.cardiff.ac.uk/learn/pathwaytosocsi neu wrth ffonio

029 2087 0000 .

Rhannu’r stori hon