Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad o dynnu nwy siâl

29 Mehefin 2012

Professor Hywel Thomas
Professor Hywel Thomas

Mae modd rheoli hollti hydrolig (a elwir yn "ffracio") yn effeithiol yn y DG cyhyd ag y bo arferion gorau yn cael eu defnyddio a'u gorfodi'n gadarn trwy reoleiddio.

Dyna gasgliad adolygiad gan y Gymdeithas Frenhinol a'r Academi Frenhinol Peirianneg a gyhoeddwyd ddydd Gwener 29 Mehefin. Cafwyd cyfraniad gan yr Athro Hywel Thomas, FREng, FRS, y Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu a Rhyngwladol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Daearamgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd i ganfyddiadau'r gweithgor.

Dywedodd yr Athro Robert Mair FREng FRS, Cadeirydd gweithgor yr adolygiad: "Bu llawer o ddyfalu ynglŷn â diogelwch tynnu nwy siâl ar ôl enghreifftiau o arferion gwael yn yr Unol Daleithiau. Cawsom fod ffynhonnau mewn cyflwr boddhaol yn allweddol bwysig ond isel iawn oedd y risg i'r pethau a oedd yn peri'r pryder mwyaf cyffredin, megis achosi daeargrynfeydd ac effaith unrhyw hollti yn cyrraedd ac yn halogi dŵr yfed.

Nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw beryglon yn perthyn i hollti hydrolig. Rhaid rhoi systemau rheoleiddio cryf a systemau monitro cadarn yn eu lle a rhaid gorfodi arferion gorau os yw'r Llywodraeth yn mynd i roi caniatâd ar gyfer archwilio pellach. Yn benodol, rydym yn pwysleisio'r angen am ddatblygu pellach a chefnogi system reoleiddio'r DG, ynghyd â'r Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer yr holl weithrediadau nwy siâl ac archwilio a phrofi helaethach i sicrhau bod pob ffynnon mewn cyflwr boddhaol."

The Royal Academy of Engineering logo

Bu'r arolwg yn archwilio tystiolaeth wyddonol a pheirianegol yn ymwneud â'r risgiau i'r amgylchedd ac iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â thynnu nwy siâl ar y glannau. Ymhlith y canfyddiadau a arweiniodd at y casgliad y gellid gwneud y gwaith yn ddiogel roedd:

  • Mae hollti hydrolig yn dechnoleg sydd wedi ennill ei blwyf a chafodd ei ddefnyddio am ddegawdau lawer gan y diwydiannau olew a nwy yn y DG;
  • Mae'r risgiau o halogi dyfrhaenau oherwydd holltiadau yn isel iawn os yw'r nwy siâl yn cael ei dynnu ar ddyfnder o gannoedd o fetrau;
  • Mae'r dirgryniadau daear a achosir gan hollti hydrolig yn debygol o fod yn wannach na'r rhai sy'n digwydd yn naturiol yn y DG ac yn wannach na'r rhai sy'n berthynol i gloddio am lo, sydd yn isel yn ôl safonau byd-eang;
  • Nid yw pyllau agored i storio dŵr gwastraff (a gafodd eu defnyddio yn yr Unol Daleithiau ac a allai ollwng) yn cael eu caniatáu yn y DG ac mae yna gyfleusterau niferus yn y DG ar gyfer trin gwastraff tebyg o'r sector diwydiannol;
  • Datblygwyd gweithdrefnau sydd wedi ennill eu plwyf i waredu defnyddiau ymbelydrol sy'n digwydd yn naturiol (sy'n bresennol yn y dyfroedd gwastraff ar ôl hollti hydrolig) gan ddiwydiannau echdynnu'r DG.

Un pryder penodol yw y gallai smentio gwael a chasinau ffynhonnau diffygiol arwain at nwy yn gollwng a halogiad amgylcheddol ehangach, fel sydd wedi digwydd mewn rhai achosion yn yr Unol Daleithiau. Felly, daw'r adolygiad i'r casgliad y dylid rhoi blaenoriaeth i wneud yn siŵr fod pob ffynnon mewn cyflwr boddhaol drwy gydol ei hoes.

Royal Society logo

Fel canlyniad i asesu systemau rheoleiddio yn y DG ac enghreifftiau o arferion gorau, cafwyd nifer o argymhellion y dylid eu gweithredu os yw nwy siâl i gael ei dynnu'n ddiogel yn y DG. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cryfhau rheolwiddwyr y DG, gan gynnwys darparu rhagor o adnoddau os oes eu hangen;
  • Rhoi cyfrifoldeb arweiniol am reoleiddio tynnu nwy siâl i un rheoleiddiwr;
  • Cryfhau'r system o archwilio ffynhonnau er mwyn gwneud yn siŵr fod ffynhonnau'n cael eu dylunio gyda golwg nid yn unig ar iechyd a diogelwch ond hefyd ar yr amgylchedd;
  • Cynnal profion rheolaidd i wneud yn siŵr fod ffynhonnau mewn cyflwr boddhaol;
  • Gorchymyn a gorfodi Asesiadau Risgiau Amgylcheddol ar gyfer pob gwaith siâl nwy , y dylid eu cyflwyno i'r rheoleiddwyr er mwyn eu craffu
  • Sicrhau monitro trylwyr o fethan mewn dŵr daear, seismigedd a methan yn gollwng cyn, yn ystod ac ar ôl hollti hydrolig;
  • Sefydlu prosesau rheoli integredig i wneud yn siŵr fod dŵr yn cael ei ddefnyddio'n gynaliadwy ac er mwyn gwastraffu cyn lleied â phosibl

Ychwanegodd yr Athro Mair: "Fel y gwnaethom yn glir ar y dechrau, nid yw'r adolygiad hwn yn ddadansoddiad cyflawn o'r holl faterion sy'n gysylltiedig â nwy siâl ac rydym wedi amlygu nifer o faterion a allai haeddu ystyriaeth bellach, gan gynnwys y risgiau i'r hinsawdd sy'n gysylltiedig â thynnu a defnyddio nwy siâl, a chael y cyhoedd i dderbyn hollti hydrolig. "

Rhannu’r stori hon