Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo ein cysylltiadau â Tsieina

18 Hydref 2012

Promoting our Chinese links
Yr Is-ganghellor yr Athro Colin Riordan yng nghwmni’r Cwnselwr Shen Yang.

Bu dirprwyaeth o bobl addysgol blaengar o Tsieina yn ymweld â'r Brifysgol er mwyn trafod, atgyfnerthu a sefydlu dolenni newydd.

"Mae ein perthynas â Tsieina yn ofnadwy o bwysig i ni ac mewn perthynas â'n huchelgais i fod yn un o brifysgolion gorau'r byd," meddai 'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, a groesawodd y Cwnselwr Shen Yang a thri chynrychiolydd arall o'r Adran Addysg yn Llysgenhadaeth Tsieina, ynghyd â'r Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu a Rhyngwladol yng Nghaerdydd, yr Athro Hywel Thomas.

"Mae'n berthynas sydd wedi hen ymsefydlu. Mae gan Gaerdydd ymrwymiad i Tsieina ers sawl blwyddyn. Mae'n berthynas sy'n llifo'r ddwy ffordd rhyngom â phrifysgolion a busnesau yn Tsieina, ac mae'r gweithio agos rhyngom yn fanteisiol i bawb ohonom.

"Roedd yr ymweliad heddiw yn gyfle i drafod cynlluniau i atgyfnerthu ein cysylltiadau â Tsieina ac i ystyried ffyrdd o ddatblygu partneriaethau newydd ag amryw o brifysgolion yn Tsieina. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisio darganfod sut y gallwn gymell mwy o fyfyrwyr o Gaerdydd i dreulio amser yn Tsieina fel rhan o'u hastudiaethau," ychwanegodd.

Yn ystod eu hymweliad bu aelodau'r ddirprwyaeth yn ymweld â Sefydliad Confucius y Brifysgol.

Mae gan Gaerdydd gysylltiadau â Tsieina ar lefel uchel. Dirprwy Ganghellor Rhyngwladol Anrhydeddus y Brifysgol yw'r Athro Zhong Binglin, sy'n Llywydd un o brif sefydliadau addysg uwch Tsieina, sef Prifysgol Normal Beijing. Mae cysylltiad yr Athro Zhong â Chaerdydd yn mynd yn ôl i 1990, pan ddaeth i'r Brifysgol i astudio peirianneg.

Cynrychiolir Caerdydd hefyd yn nathliadau canmlwyddiant Canolfan Gwyddor Iechyd Prifysgol Peking. Lansiodd Caerdydd Sefydliad Ymchwil Oncoleg ar y cyd â Peking ym mis Mai eleni a bydd yr ymweliad yn caniatáu trafodaethau pellach ynglŷn â meithrin y cydweithio.

Rhannu’r stori hon