Ewch i’r prif gynnwys

Menter Ensym

7 Awst 2012

Green Energy

Cwmni deillio newydd o Ysgol y Biowyddorau yw'r cwmni portffolio diweddaraf i fod yn rhan o gwmni masnacheiddio'r brifysgol, Fusion IP.

Mae Nanotether Discovery Science Limited ("Nanotether") wedi ei seilio ar ddyfais tri academydd o Gaerdydd – Yr Athro Trevor Dale, Yr Athro Harwood a'r Athro Paola Borri o Ysgol y Biowyddorau.

Mae gan eiddo deallusol arloesol y tri y potensial i wella darganfod cyffuriau drwy finiatureiddio a chyflymu pa mor gyflym y gellir astudio'r rhyngweithio rhwng proteinau a chyffuriau posibl ar gyfer y marchnadoedd fferyllol a biotechnolegol.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae ffrwydrad wedi bod mewn gwybodaeth fiolegol o ganlyniad i dechnolegau synhwyro biolegol trwygyrch uchel, pob un yn arwain at greu marchnadoedd dadansoddol a diagnostig newydd. Fodd bynnag, pan fo pob techneg newydd yn cael ei chreu, mae tagfeydd yn cael eu creu rhwng un ymagwedd a'r nesaf ac un o'r tagfeydd allweddol yw meintioliad biocemegol.

Gall meintioliad biocemegol gymryd nifer o fisoedd i'w benderfynu drwy ddefnyddio'r dechnoleg bresennol, yn bennaf oherwydd yr amser a gymerir i gynhyrchu a phuro proteinau ar gyfer profion. Mae technoleg Nanotether  yn anelu at chwalu'r dagfa fiocemegol hon.

Dywedodd yr Athro Dale : "Mae ein technoleg yn miniatureiddio profion meintioliad biocemegol a bydd yn caniatáu i fwy o gyffuriau gael eu profi drwy ddefnyddio meintiau llai, ar gost is na'r dulliau presennol.

"Gallai hyn gyflymu'r adnabod ar gyffuriau newydd a'u sgil-effeithiau posibl ar bwynt cyn y profi cyn-glinigol a chlinigol. Dylai hyn gael effaith sylweddol ar sicrhau llwyddiant wrth ddatblygu cyffuriau."

Mae'r cwmni newydd wedi ei seilio ar dechnoleg a ddatblygwyd gyda chymorth ariannu gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Strategaeth Technoleg Llywodraeth y DU.

Y prif fuddsoddwr yn y busnes yw Andrew Black, sy'n buddsoddi mewn biotechnoleg yn ei chamau cyntaf ac sy'n adnabyddus iawn am ei rôl yn sefydlu'r safle betio ar chwaraeon ar-lein Betfair.

Wrth sôn am ei fuddsoddiad dywedodd Andrew Black: "Rwyf wrth fy modd yn gweld y dechnoleg chwyldroadol hon yn cyrraedd y cam pwysig nesaf yn y datblygu arni. Mae gan Nanotether botensial aflonyddgar gwirioneddol ac mae lefel uchel o ddiddordeb gan y diwydiant yn barod."

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Fusion IP David Baynes: "Dyma enghraifft arall o ymchwil safon byd Prifysgol Caerdydd ac edrychwn yn ein blaenau i weithio gyda'r tîm wrth iddynt ddatblygu'r Eiddo Deallusol arloesol hwn.

"Mae gan y dechnoleg y potensial i gynyddu cyfradd y sgrinio 100 gwaith a lleihau faint o ddeunydd sydd angen o 1,000 o weithiau ac mae hynny'n gyffrous dros ben ac yn dangos yn glir y gallai'r dechneg hon chwyldroi'r darganfod ar gyffuriau."

Rhannu’r stori hon