Ewch i’r prif gynnwys

Creu dyfodol gwell

1 Awst 2012

Bydd egin beirianwyr yn cael y cyfle i ddylunio ac adeiladu eu tyrbin gwynt eu hunain wrth i Brifysgol Caerdydd fynd â'i gwaith i'r gymuned yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2012.

Gall ymwelwyr ag Eisteddfod eleni, a gynhelir ym Mro Morgannwg rhwng 4 ac 11 Awst, roi cynnig ar amrywiaeth o heriau peirianneg ar gyfer yr ifanc - a'r ifanc eu ffordd, yn ogystal â mynd i'r afael â rhywfaint o waith ymchwil arloesol y Brifysgol.

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw prif ŵyl Cymru. Fe'i cynhelir bob blwyddyn yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, ac mae'n denu hyd at 160,000 o ymwelwyr. Gall plant oed ysgol gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol ym mhafiliwn y Brifysgol i gael gwybod sut i adeiladu tyrbin gwynt. Byddant yn cael cyngor a chanllawiau ynglŷn â'r hyn sy'n gwneud tyrbin gwynt da, a rhoddir gwobrau ar gyfer tyrbin gorau'r dydd.

Bydd gweithgareddau eraill yn ystod wythnos y digwyddiad yn rhoi cyfle i blant cyn oed ysgol liwio a gwneud melin wynt, tra gall eraill geisio adeiladu pont a bydd yr hiraf yn cael ei nodi ar fwrdd arweinwyr. Bydd car rasio Fformiwla Myfyrwyr y Brifysgol yn bresennol drwy gydol yr wythnos hefyd.

"Peirianneg yw thema presenoldeb y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol 2012", meddai'r Rheolwr Ymgysylltu â'r Gymuned, Bruce Etherington.

"Peirianneg yw un o'r meysydd allweddol a fydd yn helpu Cymru trwy'r cyfnod heriol hwn. Trwy gyflwyno plant i waith y Brifysgol mewn ffordd ddifyr a rhyngweithiol, gobeithiwn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr."

Bydd y Brifysgol yn rhannu ei phafiliwn gyda Techniquest, ac fe fydd wedi'i leoli nesaf at y Pafiliwn Gwyddoniaeth ar y Maes.

Bydd gan Ysgol Gymraeg y Brifysgol bresenoldeb cryf ar draws yr Eisteddfod gyda chyfres o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos, gan gynnwys araith gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Sioned Davies, ar gyfieithu llenyddiaeth plant, a chan y Dr Simon Brooks ar fewnfudwyr sy'n siarad Cymraeg.

Ar ddydd Iau 9 Awst, bydd aelodau o Ysgol y Gyfraith Caerdydd wrth law i roi mwy o wybodaeth i bobl am yr Ysgol a'i gwaith ymchwil. Trwy gydol yr wythnos, bydd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl stondin ym mhafiliwn y Brifysgol hefyd, i hyrwyddo'r Ganolfan a'i gwaith.

Rhannu’r stori hon