Ewch i’r prif gynnwys

Wythnos RAG

3 Rhagfyr 2012

RAG week

"Nid yw bywyd byth yn dawel yn Undeb y Myfyrwyr, ond roedd yr wythnos diwethaf ychydig yn fwy difyr na'r arfer.

Mae'r wythnos RAG flynyddol yn ddigwyddiad a gynhelir 100% gan fyfyrwyr er mwyn codi miloedd o bunnoedd i wahanol elusennau mewn ffyrdd hwylus a chyffrous.

Doedd eleni'n sicr ddim yn eithriad. Nos Lun heidiodd cannoedd o fyfyrwyr i CF10 er mwyn gwylio a chwerthin wrth i ddynion geisio greu argraff dda ar ferched mewn gêm debyg i 'Take me Out'.

Ddydd Mawrth cawsom raffl RAG gan gynnig gwobrau gwerth £1000 ac ar ddydd Mercher aethom i gyd i'r clwb nos poblogaidd Lash, gan fanteisio ar natur gystadleuol timau chwaraeon y Brifysgol i'w hannog i herio ei gilydd.

Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ddydd Iau pan gymerodd rhai (gan gynnwys minnau) ran mewn gêm 'Myfyrwyr v Bwyd', cystadleuaeth i fwyta prydiau bwyd anferthol. Fel cystadleuydd, galla i gadarnhau fy mod i'n dal i ddioddef!

Ddydd Gwener gwelwyd elfen fwyaf pryfoclyd ein hymdrechion i godi arian, y dasg oedd i fyfyrwyr wisgo dillad clown a dilyn unigolion o gwmpas y lle nes iddyn nhw dalu i gael llonydd. Roedd rhaid i Harry Newman, Llywydd yr Undeb, dalu £70 i'w glown cyn iddo roi llonydd iddo.

Yna, ddydd Sadwrn, i goroni'r cyfan, daeth wythnos RAG i ben gyda'r daith gyntaf 'AR GOLL' - digwyddiad a oedd yn ymwneud â gorchuddio llygaid 60 o wirfoddolwyr a'u hanfon ar fws am 3 awr i ganol unman a'u gadael i fodio taith adref. Llwyddodd y dasg heriol ond hwylus hon i godi £4000.

Mae swm yr arian a godwyd yn parhau i gynyddu, ond mae'n amlwg y bu'n wythnos lwyddiannus tu hwnt ac fe wnaethom ni godi arian ar gyfer nifer o elusennau da a hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd rhan."

- Adam Curtis, Swyddog Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr

Rhannu’r stori hon