Ewch i’r prif gynnwys

100 Gorau Stonewall

19 Ionawr 2017

Stonewall Logo

Prifysgol Caerdydd yw'r brifysgol orau yn y DU o ran ei hymrwymiad i bobl LGBT+, yn ôl un o arolygon cyflogaeth mwyaf y DU.

Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn archwiliad blynyddol o ddiwylliant y gweithle ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, ac mae'n cynnwys y cyflogwyr sy'n perfformio orau ym Mynegai Stonewall ar gyfer Cydraddoldeb yn y Gweithle.

Mae'r Brifysgol yn safle 23 yn y rhestr o 100 o gyflogwyr – yn uwch na 11 o brifysgolion eraill sydd wedi eu cynnwys yn y Mynegai.

Hon yw'r seithfed flwyddyn yn olynol y mae'r Brifysgol wedi cael ei chynnwys yn y Mynegai, i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, a deurywiol.

Dywedodd Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, y rhwydwaith ar gyfer staff LGBT+: "100 Gorau Stonewall yw un o'r meincnodau yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ymrwymo i gydraddoldeb LGBT+..."

"Mae'r ffaith i ni aros yn y 100 Gorau am y seithfed flwyddyn yn olynol yn gamp anhygoel."

Karen Cooke Cadeirydd Enfys

“Er i ni ostwng tri lle eleni, mae'r ffaith i ni gyrraedd chwarter uchaf y Mynegai yn dangos faint o waith rydym wedi'i wneud."

"Rydym yn gwybod bod rhagor o waith i'w wneud o hyd, ac mewn sefydliad o dros 6,000 o aelodau staff mae digonedd i'w wneud, yn enwedig gyda'n cydweithwyr deurywiol a thrawsrywiol, i greu'r amgylchedd gorau ar gyfer staff a myfyrwyr LGBT+."

Dywedodd y Rhag Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae'r ffaith ein bod ni'n dal i fod ar restr 100 Gorau Stonewall yn dangos pa mor galed y mae llawer o bobl wedi gweithio i godi proffil cydraddoldeb LGBT+ ar draws y Brifysgol..."

"Mae'r rhestr hon yn eithriadol o gystadleuol, a dim ond 11 o brifysgolion eraill sydd arni. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynnig amgylchedd gwaith cynhwysol, croesawgar a chynhyrchiol ar gyfer pob aelod o staff."

Yr Athro Elizabeth Treasure Deputy Vice-Chancellor, Professor and Honorary Consultant, Dental Public Health

Y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yw'r prif ddull y gall cyflogwyr yng ngwledydd Prydain ei ddefnyddio i fesur eu hymdrechion i fynd i'r afael â gwahaniaethu, ac i greu gweithleoedd cynhwysol ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Cyflwynodd dros 430 o gyflogwyr geisiadau i Fynegai 2017, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector. Mae wedi'i seilio ar amrywiaeth o ddangosyddion allweddol sy'n cynnwys arolwg cyfrinachol o weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol, gyda mwy na 90,000 o ymatebion.

Dywedodd Duncan Bradshaw, Cyfarwyddwr Rhaglenni Aelodaeth, Stonewall: "Mae Prifysgol Caerdydd a phawb sydd wedi cyrraedd rhestr 100 Cyflogwr Gorau eleni wedi cyflawni gwaith rhagorol, ac maen nhw'n sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn chwarae rhan flaenllaw yn eu gwaith. Roedden ni wrth ein bodd i gael 439 o geisiadau ar gyfer y Mynegai eleni, un o'r blynyddoedd mwyaf cystadleuol hyd yma, a hoffwn ddiolch i bob un sefydliad a gymerodd ran..."

"Drwy barhau i ymdrechu a gweithio'n galed, gallwn barhau i weithio at greu byd lle caiff pob aelod o staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ei groesawu a'i dderbyn yn ddieithriad yn ei weithle."

Duncan Bradshaw Cyfarwyddwr Rhaglenni Aelodaeth, Stonewall

Rhannu’r stori hon

Information on how we work to meet our legal and moral obligations as they apply to equality and diversity.