Ewch i’r prif gynnwys

Sŵn Hanes

24 Ionawr 2012

The sound of history

Yn sgil ariannu newydd mae casgliadau sylweddol o gerddoriaeth unigryw mewn llawysgrifau ac mewn print o'r 18g a'r 19g yn mynd i fod ar gael i gynulleidfa ysgolheigaidd ehangach.

Mae JISC wedi dyfarnu £48,000 i'r Brifysgol er mwyn catalogio ei chasgliadau prin o Gymru, ynghyd â chasgliad a gafwyd ganddi o Lyfrgell Gerddoriaeth y BBC (Llundain). Mae'r casgliadau hyn, sy'n un o'r adnoddau cerdd mwyaf y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt a Llundain, yn ychwanegu at y casgliad o lyfrau prin a sicrhawyd i Gymru ar y cyd gan y Brifysgol a Llywodraeth Cymru yn 2009.

Bydd Ysgol Gerddoriaeth Caerdydd a Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol, yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r gronfa ddata cerddoriaeth ryngwladol RISM (UK) a Royal Holloway, Prifysgol Llundain, yn catalogio'r darnau nodedig hyn ac yn sicrhau bod y cofnodion ar gael yn agored i ymchwilwyr, athrawon, perfformwyr, llyfrgelloedd eraill, a'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn hanes cerddoriaeth a pherfformio.

Dywedodd yr Athro David Wyn Jones, Pennaeth Ysgol Gerddoriaeth Caerdydd: "Mae'r casgliadau hyn yn adnodd hanesyddol arbennig o gyfoethog i ysgolheigion, athrawon a pherfformwyr cerddoriaeth, ond nid ydynt erioed o'r blaen wedi cael eu cynnwys mewn catalog sydd ar gael i'r cyhoedd. Bydd yr ariannu gan JISC yn caniatáu i ni ddod â mwy na 2,500 o gofnodion o ddeunydd ymchwil cerdd prin i sylw cynulleidfa ehangach am y tro cyntaf ers iddynt gael eu casglu."

Ychwanegodd Janet Peters, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd y Brifysgol yng Nghyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol: "Mae ychwanegu'r llawysgrifau a'r adnoddau hyn yn datblygu ymhellach y casgliadau hanesyddol a phrin sydd gan Gasgliadau Arbennig ac Archifau (SCOLAR) y Brifysgol. Bydd galluogi i academwyr a cherddorion gael gafael ar y casgliadau cerdd hanesyddol hyn o gymorth i gynyddu ein dealltwriaeth o'r rhan mae cerddoriaeth wedi ei chwarae yn y gymdeithas dros yr oesoedd."

Adeiladwyd Casgliad Mackworth o lawysgrifau dros sawl cenhedlaeth o deulu Mackworth, gyda'u cartref teuluol yng Nghastell Gnoll ger Castell-nedd, gan ddechrau gyda'r diwydiannwr Syr Herbert Mackworth (1739-91). Bu i'r cenedlaethau a'i dilynodd ychwanegu at y casgliad, sy'n cynnwys llawysgrifau cerddoriaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg at y deunawfed ganrif, ynghyd â cherddoriaeth argraffedig a llyfrau cerdd o'r un cyfnod.

Mae Casgliad Aylward, a roddwyd at ei gilydd gan Theodore Edward Aylward (1844-1933) yn cynnwys mwy na 700 o eitemau, yn cynnwys cryn swmp o ddeunydd ar weithiau cysegredig, caneuon a chanu, cerddoriaeth ddramatig, a cherddoriaeth i gerddorfa. Organydd yr Eglwys Gadeiriol yn Llandaf oedd Aylward. Roedd hefyd yn arweinydd Cymdeithas Gerdd Caerdydd ac yn gôr-feistr Gŵyl Deirblynyddol Caerdydd.

Cafwyd Casgliad y BBC o gerddoriaeth argraffedig o'r deunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a roddwyd at ei gilydd gyntaf yn y 1950au at wasanaeth cynhyrchwyr a fyddai'n paratoi deunydd i'w ddarlledu ar Radio 3, gan Lyfrgell Gerddoriaeth y BBC (Llundain) i ychwanegu at y deunydd yng nghasgliadau Mackworth ac Aylward.

Bydd y prosiect yn tynnu ar arbenigedd academaidd a TG ac arbenigedd llyfrgelloedd proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd, y Llyfrgell Brydeinig, Prifysgol y Frenhines Belffast, Royal Holloway a Phrifysgol Utrecht. Bydd yr ariannu hefyd yn talu am benodi dau Gatalogydd Cerdd arbenigol, a fydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd am chwe mis.

Rhannu’r stori hon