Ewch i’r prif gynnwys

Rhys i’r Adwy – Eto

16 Ionawr 2012

Rhys Jones

Mae Dr Rhys Jones, yr arbenigwr bywyd gwyllt mewn argyfwng, yn ei ôl.

Yn 2010, dilynodd cyfres BBC WalesRhys to the Rescue hynt a helynt Dr Jones, sy'n Gymrawd Ymweliadol Nodedig yn Ysgol y Biowyddorau, ar gyfres o alwadau brys. Mae Dr Rhys yn arbenigo mewn ymlusgiaid ac mae'n un o'r ychydig bobl y gall pobl ei alw i achub rhywogaethau sydd mewn perygl. Gall diwrnod arferol yn ne Cymru gynnwys nadroedd, sgorpionau a chorynnod.

Mae ail gyfres yn cael ei dangos nawr sy'n dilyn Dr Jones ar ei alwadau unwaith eto ac mae'n dod wyneb yn wyneb ag amrywiaeth ehangach o anifeiliaid y tro yma. Bydd Ysgol y Biowyddorau'n dangos rhaglen gyntaf y gyfres yr un adeg â phryd y caiff ei dangos ar y teledu nos Fercher. Bydd Dr Jones ar gael i ateb cwestiynau yn y digwyddiad a gynhelir yn Narlithfa Julian Hodge.

Ym mhennod agoriadol cyfres newydd Rhys to the Rescue, mae sgwatiwr mewn ystafell ymolchi yn Abertridwr - neidr ŷd, 36 modfedd o hyd. Mae Dr Jones yn dod o hyd i groen y neidr ond a fydd yn gallu achub y neidr o Ogledd America heb beri anaf?

Mewn coedwig yn ne Cymru, mae llygad dystion yn credu eu bod wedi gweld panther mawr neu ryw fath o gath fawr, ond a fydd Dr Jones yn gallu dal y gath ar gamera? Mae wedyn yn mynd i Warchodfa Epaod a Mwncïod Cymru yng Nghwm Tawe lle mae 300 o anifeiliaid dieisiau'n byw. Pan mae Billy y tsimpansî yn cyrraedd ar ôl taith o sw ym Mwlgaria, mae Dr Jones wrth law i weld ei fod yn ymgartrefu'n dda. Ar ôl 15 mlynedd ar ei ben ei hun mewn cell fechan, sut bydd Billy yn ymateb pan fydd yn cwrdd â'r ddau dsimpansî arall sy'n byw yn ei gartref?

Meddai Dr Jones: "Hwyrach y bydd y gyfres newydd yn wahanol i'r hyn y bydd pobl yn ei ddisgwyl. Mae'n dechrau gyda mi'n helpu rhywun gyda neidr cyn symud ymlaen i sôn am lu o anifeiliaid eraill. Mae'r gyfres hon yn cynnwys sawl antur go iawn."

Mae'r rhaglenni hefyd yn dangos llawer o waith Dr Jones gydag Ysgol y Biowyddorau, gan gynnwys canfod bod nadroedd y glaswellt yn ymddwyn mewn modd cycyllog. Bydd yr ysgol yn dangos y rhaglen am 7pm nos Fercher o flaen cynulleidfa fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Amgueddfa Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, amrywiaeth o gwmnïau preifat perthnasol a'r BBC, yn ogystal â staff milwrol a'r heddlu. Bydd Dr Jones yn aelod o'r panel ar gyfer y sesiwn holi ac ateb ar ôl dangos y rhaglen.

Meddai Dr Jones, a enillodd ei radd a'i PhD yn yr Ysgol: "Bydd y sesiwn holi ac ateb yn rhoi'r cyfle i'r gynulleidfa drafod ymhellach am yr hyn maent newydd ei weld. Bydd cydweithwyr, aelodau'r Amgueddfa, yr heddlu a gwahanol asiantaethau yno hefyd gan bwysleisio pa mor ganolog maent wedi bod wrth wneud y gyfres. Gobeithio hefyd ei fod yn dangos i bawb yn yr Ysgol sydd wedi fy nghefnogi, yn enwedig fy ngoruchwylwyr Dr Jo Cable a'r Athro Mike Bruford, bod y cyfan wedi bod yn werth yr ymdrech."

Mae lleoedd ar gael am ddim yn Ysgol y Biowyddorau a rhoddir tocynnau ar sail y cyntaf i'r felin. I gadw lle, e-bostiwchRhystotherescue@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon