Ewch i’r prif gynnwys

Tsiecoslofacia: Y Wladwriaeth A Fethodd

16 Rhagfyr 2016

Czechoslovakia, the state that failed book cover
Cover of Czechoslovakia: The State That Failed

Sut arweiniodd ymchwil hanesyddol i argymhellion polisi rhyngwladol

Mae ymchwil arloesol gan athro o Gaerdydd yn dangos sut y gall ymchwil hanesyddol gael effaith ar y byd ehangach a siapio polisi rhyngwladol.

Ers ei gyhoeddi yn 2009, mae llyfr Mary Heimann Tsiecoslofacia: Y Wladwriaeth A Fethodd wedi dod yn awdurdod ar hanes y wladwriaeth a ymgododd o'r Rhyfel Byd Cyntaf. O fewn blwyddyn wedi’i gyhoeddiad fe’i nodwyd gan Academi Gwyddoniaeth y Weriniaeth Tsiec yn ei hadroddiad o'r llyfrau mwyaf arwyddocaol i'w cyhoeddi yn y Dyniaethau ers 25 mlynedd. Mae'n parhau i fod yn un o ddim ond pump o astudiaethau achos Effaith Ymchwil AHRC yng Nghymru.

Mae’r hanes gwleidyddol heb flewyn ar dafod yn adrodd stori gwlad o’i sefydlu ym 1918 i’w rhaniad ym 1992 – wrth olrhain ei hanes cylch llawn o ddemocratiaeth ifanc drwy oresgyniad y Natsïaid, llywodraeth y Comiwnyddion a goresgyniad gan yr Undeb Sofietaidd i ddemocratiaeth unwaith eto.

Mae’r llyfr yn chwalu mythau gorllewinol cyffredin am y wladwriaeth, gan ddatgelu sut arweiniodd cenedlaetholdeb anoddefgar ymdeimlad di-fudd o ddioddef awdurdodau’r Weriniaeth Tsiec a Slofacia i wahaniaethu yn erbyn lleiafrifoedd a chystadlu gyda’r Natsïaid i erlid Iddewon a Sipsiwn, ac yn ddiarwybod yn paratoi'r ffordd ar gyfer y wladwriaeth heddlu Gomiwnyddol. Yn ôl Heimann, gwnaeth hyn Tsiecoslofacia yn llai o eithriad rhanbarthol nag sy’n cael ei dybio’n gyffredinol, ac yn atgyfnerthu'r gwersi nac yw unrhyw wladwriaeth, hyd yn oed democratiaeth, yn rhydd o demtasiynau gwahaniaethu sy’n cael eu noddi gan y wladwriaeth tuag at ei lleiafrifoedd ei hun.

Drwy ymchwil trwyadl a gynhaliwyd dros ddwy flynedd yn Prag, mae'r Athro sydd ganddi genedlaetholdeb deuol wedi amlygu sut oedd enw Tsiecoslofacia am werthoedd rhyddfrydol a democrataidd a thriniaeth weddus o’i lleiafrifoedd Almaenig, Slofaciaidd, Hwngarig, Pwylaidd, Iddewig, Romani a Rwsiaidd yn groes i realiti. Mewn gwirionedd roedd y wladwriaeth yn gyson ar drywydd polisïau’n canolbwyntio ar y Weriniaeth Tsiec a Bohemia, ac yn eithrio a dieithrio’r cenhedloedd a’r rhanbarthau eraill yn y wladwriaeth.

Y gwir chwerw oedd y cafodd Iddewon a Sipsiwn (Roma), a gafwyd eu herlid i ddechrau gan yr awdurdodau Tsiec cyn yr Ail Ryfel Byd, bron iawn eu dileu erbyn ei ddiwedd. Datgelir hefyd y 'glanhau' ar ôl y rhyfel o siaradwyr Almaeneg a Hwngareg a’r rhodd i’r Undeb Sofietaidd o Ruthenia is-Garpathiaidd.

Wrth archwilio tensiynau Tsiec Slofac rheolaidd Tsiecoslofacia ac amlygu hunanoldeb parhaus y wladwriaeth Tsiec, cychwynnodd y llyfr nid yn unig drafodaeth gyhoeddus a phreifat eang am orffennol Tsiecoslofacia ond lansio dadl newydd, sy’n atsain hyd heddiw.

Ers cyhoeddi’r llyfr, mae Athro Heimann wedi cael gwahoddiad i siarad mewn llu o ddigwyddiadau rhyngwladol ochr yn ochr â gwesteion fel cyn- Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Madeleine Albright.

Hyd yn hyn y mwyaf arwyddocaol o’r effeithiau rhyngwladol yw gwahoddiadau i annerch Senedd y Weriniaeth Tsiec ac i gymryd rhan ym Mhartneriaeth NATO Dros Heddwch (PfP).

Wth sôn am Athro Heimann am greu Tsiecoslofacia ar banel teledu yn 2013, cydnabu’r cyn-Brif Weinidog Petr arwyddocâd ei hymchwil. "Mae eich llyfr wedi’n helpu drwy ysgogi’n cydwybod. Ni allwn fynd yn ôl ac unioni pethau, ond gallwn wneud ein dealltwriaeth yn fwy manwl. Bydd bob amser angen i fynd i'r afael â mythau cenedlaethol ac ofergoelion" dywedodd. "Credaf y bydd eich llyfr yn cyfrannu at lanhau penodol o’r awyrgylch yn y wlad hon. Ond mi fydd yn boenus."

Yn bosibl mewn cam mwy sylweddol, cyflwynodd Athro Heimann ei mewnwelediad i raniad heddychlon Tsiecoslofacia i weriniaethau Tsiec a Slofacia ar wahân ym Mhartneriaeth NATO Dros Heddwch (PfP), a gynhaliwyd yn Kiev yn 2015.

Mae tynnu sylw at labelu cymdeithasau cyfan fel cyflawnwyr ac mae dadleoliad poblogaethau yn achos Tsiec-Slofacaidd wedi’r Ail Ryfel Byd yn gwneud achos cryf o blaid yr argymhelliad y bod yr holl bleidiau mewn rhanbarthau gwrthdaro’n cydnabod ac yn rhannu bai yn gwrthdaro, gan agor y drws i ddeialog adeiladol.

Yr Athro Mary Heimann Professor of Modern History, Deputy Head of History

"Mae'n awdurdodol iawn gweld ymchwil hanesyddol yn cael cymaint o effaith" ychwanegodd. "Os gall gwersi hanes helpu rhanbarthau fel De’r Cawcasws i osgoi’r peryglon a gafwyd mewn mannau eraill, ni all ond fod yn dda."

O fewn fframwaith newydd o gymhariaeth hanesyddol a thrafodaethau tybiedig, mae'r astudiaeth yn cyfrannu at ymdrechion i ddatrys y gwrthdaro presennol yn Ne’r Cawcasws drwy argymhellion polisi PfP newydd. Fel y cyfryw, mae manteision ei hymchwiliad yn debygol o gael eu teimlo am gryn amser eto, yn y rhanbarth cythryblus sy'n ffinio â De-orllewin Asia a Dwyrain Ewrop, ac mewn mannau eraill yn y byd.

Cafodd ei adolygu yn Foreign Affairs, The Economist, Tribune, US Foreign Service Journal ac ar draws Dwyrain a chanol Ewrop, Tsiecoslofacia: Mae Y Wladwriaeth A Fethodd nawr yn ei drydydd argraffiad gyda Gwasg Prifysgol Iâl. Mae'n parhau i ddenu diddordeb eang, rhyngwladol, gan gynnwys diplomyddion a gwneuthurwyr polisi.

Mae’r Athro Mary Heimann yn ymchwilio ar hyn o bryd ar gyfer ei llyfr nesaf Cristnogaeth y tu ôl i'r Llen Haearn, eto ar gyfer Gwasg Prifysgol Iâl, yn addysgu hanes Tsiec, ynghyd ag ychydig o hanes Gwlad Pwyl a Hwngari. Symudodd yr academydd Unol Daleithiau / Prydain i Gaerdydd o Glasgow haf eleni.

Rhannu’r stori hon