Ewch i’r prif gynnwys

Y bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl anabl

7 Rhagfyr 2016

disability gap

Mae'r Llywodraeth yn sicr o golli ei tharged yn ei maniffesto i haneru'r bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl anabl erbyn 2020 os nad yw'n ymyrryd mewn modd penderfynol ac arloesol, yn ôl adroddiad newydd gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol am Anableddau.

Mae'r adroddiad, Ahead of the Arc, a gyhoeddir heddiw (7 Rhagfyr 2016), yn tynnu sylw at y ffaith na fydd y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged tan y flwyddyn 2065 os yw'n parhau ar y cyflymder presennol.

Mae'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan bedwar Athro - Victoria Wass a Melanie Jones o Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd; Nick Bacon o Ysgol Busnes Cass; a Kim Hoque o Ysgol Busnes Warwig - a Philip Connolly o Disability Rights UK, yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y bwlch cyflogaeth presennol ar gyfer pobl ag anableddau yn lleihau gan 2.6 pwynt canran yn unig erbyn 2020 ar y cyflymder presennol, ac y bydd yn cymryd tan 2065 i gyrraedd y targed o 16 pwynt canran.

Mae'r adroddiad yn dadlau bod targed y Llywodraeth yn uchelgeisiol tu hwnt, ac y bydd angen gweithredu mewn modd penderfynol ac arloesol i'w gyflawni. Mae'n amlinellu sawl ymyrraeth newydd y bydd angen eu gwneud i gyrraedd y targed, gan ganolbwyntio'n benodol ar dri maes polisïau nad ydynt yn cael eu defnyddio digon ar hyn o bryd:

  1. Mae pobl anabl yn ei chael yn anodd cael mynediad at rwydweithiau busnes prif-ffrwd ac asiantaethau'r Llywodraeth sy'n gweinyddu grantiau ymchwil ac arloesedd (Innovate UK a'r Banc Busnes, er enghraifft). Mae'r Llywodraeth yn awyddus i ymchwilio i hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth fel modd o leihau'r bwlch cyflogaeth, ond mae hyn wedi'i danseilio ar hyn o bryd gan ddiffyg mynediad a chymorth gan y rhwydweithiau ac asiantaethau ariannu sydd eu hangen. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid mynnu bod Innovate UK a'r Banc Busnes yn monitro a yw pobl anabl yn defnyddio eu gwasanaethau, yn datblygu cynlluniau i sicrhau bod mynediad pobl anabl at eu gwasanaethau'n gymesur, ac yn hyrwyddo eu gwasanaethau i bobl anabl.
  2. Roedd caffaeliad gwerth £242 biliwn gan y sector cyhoeddus yn 2015. Mae'r adroddiad yn dadlau y dylai'r llywodraeth wella hyn drwy nodi mai dim ond cwmnïau sy'n gwella rhagolygon cyflogaeth pobl anabl fydd yn cael contractau sector cyhoeddus, a hynny drwy fabwysiadu dull cynhwysol o recriwtio a chadw pobl anabl.
  3. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg data dibynadwy am faint a dosbarthiad bylchau cyflogaeth ar gyfer pobl anabl. Mae'n argymell y dylid mynnu bod pob sefydliad, yn enwedig y rhai sydd â chontractau neu sydd wedi eu hariannu gan y sector cyhoeddus, yn casglu a chofnodi statws anabledd eu cyflogwyr, defnyddwyr ac ymgeiswyr, a bod y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu cynlluniau a monitro cynnydd tuag at gyflogi a chadw mwy o bobl anabl, neu at gynnig gwasanaethau gwell ar eu cyfer. Ar y cyfan, nid yw'r data hwn am anableddau'n cael ei gasglu, ond mae'n rhan hanfodol o ddatblygu cynlluniau a monitro cynnydd tuag at gynnwys mwy o bobl anabl yn yr economi.

Dywedodd Dr Lisa Cameron AS, cadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol am Anableddau: "Mae'r adroddiad hwn yn ystyried ffactorau y nad yw'r papur gwyrdd am gyflogaeth ac anableddau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eu hystyried – a fydd digon o swyddi gwag yn y dyfodol, a sut all y Llywodraeth sicrhau bod pobl anabl naill ai yn gallu creu swyddi neu fanteisio ar gyfleoedd mewn rhannau blaenllaw o'r economi? Mae'n dadlau bod angen perthynas newydd â phobl anabl lle bydd gwariant gan y Llywodraeth hefyd yn dwyn buddiannau cymdeithasol sy'n eu helpu i weithio; ac y dylai cyrff a ariennir gan y Llywodraeth, megis Innovate UK a'r Banc Busnes, dargedu cyfran o'u harian i gefnogi pobl anabl. Gellid defnyddio'r arian hynny i helpu pobl anabl ddod yn hunangyflogedig lle bo'n briodol, neu i ddechrau busnesau, dyfeisio cynhyrchion neu wasanaethau sy'n eu helpu i oresgyn rhwystrau i'r farchnad lafur, neu hyd yn oed creu marchnadoedd newydd sydd o fudd i bawb."

Ychwanegodd Philip Connolly, rheolwr polisïau Disability Rights UK ac un o awduron yr Ymholiad: "Bydd cyfleoedd gwaith newydd ac ychwanegol yn yr economi yn golygu y bydd cymorth i bobl ddychwelyd i'r gwaith yn fwy effeithiol, ac yn annog pobl anabl i symud ymlaen o fudd-daliadau, mewn achosion lle mae eu cyflwr iechyd yn caniatáu hynny. Rydym galw ar y Llywodraeth i weithredu ar sail canfyddiadau'r Ymholiad, ac i newid ei phwyslais o dorri fudd-daliadau pobl anabl i wella'r cymorth a gânt i gael swyddi a'u cadw."

Dywedodd yr Athro Victoria Wass o Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd: "Efallai nad yw mesur statws anabledd aelodau staff, ymgeiswyr a defnyddwyr yn ymddangos yn weithgaredd diddorol nac angenrheidiol, ond mae'n gam hanfodol er mwyn nodi bylchau ar gyfer pobl anabl, ac i bennu targedau i'w lleihau, ynghyd â dwyn sefydliadau i gyfrif o ran cyrraedd y targedau. Heb fesur anableddau, nid oes modd dod o hyd iddynt, na'u rheoli."

Rhannu’r stori hon