Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cefnogi'r Wobr Iris

10 Hydref 2016

Iris Prize Logo

Mae'r Brifysgol yn cefnogi un o wyliau ffilm LGBT mwyaf blaenllaw'r byd, sy'n arddangos ffilmiau byr gwreiddiol o bedwar ban y byd.

Gŵyl Gwobr Iris, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn, yw canolbwynt byd ffilmiau LGBT, a chafodd ei henwi'n un o'r 50 o wyliau ffilm gorau'r byd.

Eleni, mae'r Brifysgol yn noddi'r Wobr Rheithgor Ieuenctid ar gyfer y Ffilm Fer Orau, a'r beirniaid fydd disgyblion ysgol o ledled Cymru.

"Mae cefnogi ein staff a myfyrwyr LGBT+ a rhoi amgylchedd cynhwysol a chroesawgar iddynt yn hynod bwysig i Brifysgol Caerdydd. Rydym yn falch iawn o noddi'r Wobr Rheithgor Ieuenctid ar gyfer y Ffilm Fer Orau a gweithio gydag Iris i ddenu cynulleidfa fwy eang i'r ŵyl."

Yr Athro Elizabeth Treasure Deputy Vice-Chancellor, Professor and Honorary Consultant, Dental Public Health

Ochr yn ochr â'r ŵyl, mae perthynas y Brifysgol ag Iris wedi helpu i greu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr gael profiad o weithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Am y tro cyntaf eleni cafodd dau o fyfyrwyr y Brifysgol gyfle i wneud interniaethau yn swyddfa'r ŵyl.

Cynhaliwyd digwyddiad hefyd i fyfyrwyr sy'n ystyried eu hunain yn LGBT+ siarad â phanel profiadol am eu gyrfaoedd, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gwobr Iris.

Dywedodd Jane Goodfellow, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn ymdrechu i wella profiad ein myfyrwyr LGBT+, a'n digwyddiad panel oedd y cyntaf o'i fath a gynhaliwyd gan y Brifysgol. Rhoddodd gyfle i'n myfyrwyr LGBT+ i glywed gan banel ysbrydoledig o gyflogwyr, a rhannodd pob un ohonynt straeon personol ac unigryw am eu profiadau yn y gweithle."

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Ynghyd â chael cymdeithas LGBT+ bywiog, mae'r Brifysgol wedi cyflwyno polisi yn erbyn bwlio homoffobig, ac mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r gymuned ehangach.

Mae'r Brifysgol, sy'n Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, ymhlith y 20 uchaf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall – y sefydliad uchaf ar y rhestr o'r sector addysg uwch.

Ychwanegodd Karen Cooke, Cadeirydd Rhwydwaith LGBT+ Staff y Brifysgol, Enfys: "Yn ogystal â dangos, ar lefel ryngwladol, i ddarpar fyfyrwyr a staff bod cydraddoldeb LGBT yn bwysig ym Mhrifysgol Caerdydd, mae cefnogi'r Wobr Iris hefyd yn ein galluogi ni i gefnogi digwyddiad cymunedol lleol sydd bellach yn llwyddiant ysgubol ledled y byd.  Rydym bob amser yn cynnwys manylion am y gefnogaeth yr ydym yn falch o'i rhoi i Iris fel rhan o'n cais blynyddol i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall."

Cynhelir Gŵyl Gwobr Iris yng Nghaerdydd rhwng 12 a 16 Hydref 2016. Bydd 35 o ffilmiau byr yn cystadlu am Wobr Iris, a bydd yr enillydd yn cael £30,000.

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr yr Ŵyl: "Mae'r berthynas rhwng yr ŵyl a Phrifysgol Caerdydd wedi datblygu'n organig dros y pedair blynedd ddiwethaf. Eleni mae'r myfyrwyr sydd wedi ymuno â Thîm Iris fel interniaid wedi creu argraff fawr arnom. Gwnaeth un ohonynt gyfaddef mai dim ond ar ôl i'n Cadeirydd, Andrew Pierce, roi cyflwyniad yn y Brifysgol yn gynharach eleni y clywodd hi am Iris.

"Byddwn yn gwneud rhagor i ddathlu'r berthynas â Phrifysgol Caerdydd ar y noson agoriadol, pan fydd adeilad ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael y prif sylw mewn ffilm arbennig i ddathlu ein degfed flwyddyn!"

Rhannu’r stori hon

Information on how we work to meet our legal and moral obligations as they apply to equality and diversity.