Ewch i’r prif gynnwys

Canfyddiadau disgyblion ac athrawon o addysgu

14 Medi 2016

pupils

Yn ôl astudiaeth newydd o bwys, mae llai na hanner disgyblion ysgolion uwchradd yn credu bod y rhai sy'n eu haddysgu yn cymryd eu barn o ddifrif, er bod y mwyafrif o athrawon yn anghytuno.

Mae'r rhain yn ganfyddiadau canolog mewn arolwg o ddisgyblion 12 a 13 oed a'u hathrawon mewn ysgolion yng Nghymru. Cafodd y rhain eu dadansoddi gan Dr Kevin Smith o Brifysgol Caerdydd a'u cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain.

Fel rhan o astudiaeth ehangach o addysg mewn ysgolion yng Nghymru a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), daeth i'r amlwg yn yr arolwg o 407 o ddisgyblion a 215 o athrawon Blwyddyn 8 mewn 13 o ysgolion, mai dim ond 42 y cant o'r bobl ifanc oedd yn meddwl bod "staff yr ysgol yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn eu cymryd o ddifrif".  Roedd hyn yn cyferbynnu â'r 90 y cant o athrawon oedd yn credu eu bod yn gwneud hynny.

Ategwyd y gwahaniaeth amlwg rhwng barn yr athrawon a'r disgyblion gan atebion y naill grŵp fel y llall i gwestiynau eraill, a bod hyn yn peri goblygiadau addysgol difrifol yn ôl pob golwg.

Daeth i'r amlwg yn yr ymchwil mai dim ond 43 y cant o'r plant oedd yn cytuno â'r datganiad "bod eich ysgol yn pennu targedau addysgol sy'n briodol i bob disgybl" o'i gymharu â 92 y cant o oedolion.

Digon tebyg oedd yr ymateb hefyd i'r cwestiwn "mae staff yr ysgol yn disgwyl llawer gen i", gyda 59 y cant o bobl ifanc yn cytuno, yn wahanol i 95 y cant o'r athrawon.

Yn rhan o'r astudiaeth, holwyd yr un disgyblion ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan oeddent ym mlwyddyn 10, a chafwyd ymateb hyd yn oed yn llai cadarnhaol i'r cwestiwn "Mae staff yr ysgol yn gwrando ar fy safbwyntiau ac yn eu cymryd o ddifrif", gyda dim ond 37 y cant o ddisgyblion Blwyddyn 10 yn cytuno.

Meddai Dr Smith: "Roedd mwyafrif llethol yr athrawon a holwyd yn teimlo eu bod yn gwneud eu gorau i ddiwallu anghenion y disgyblion.

"Fodd bynnag, roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu tanseilio gan ormod o newidiadau i'r polisi addysg dros gyfnod rhy fyr, biwrocratiaeth gynyddol yn y sector addysgu yn sgîl y pryder ychwanegol ar 'atebolrwydd athrawon', a'r pwyslais ar ganlyniadau disgyblion mewn arholiadau pwysig."

Dywedodd bod y pwynt olaf yn golygu bod athrawon yn aml yn gorfod ystyried disgyblion fel ystadegau arholiadau yn unig. "Mae'r pwyslais cynyddol ar atebolrwydd arwyddocaol – y syniad bod staff a disgyblion yn cael eu hasesu ar sail ystadegau arholiadau - a defnyddio deunyddiau addysgu parod, yn golygu bod llai o gyfle i ymyrryd mewn modd sy'n addas i fyfyrwyr unigol yn yr ystafell ddosbarth," ychwanegodd.

Fodd bynnag, cafwyd rhywfaint o newyddion da yn yr astudiaeth am ysgolion ac athrawon yng Nghymru. Cytunodd 76 y cant o'r disgyblion a arolygwyd ym Mlwyddyn 8, a 75 y cant o'r un disgyblion ym Mlwyddyn 10, â'r datganiad "Mae faint yr ydw i'n gwella fy astudiaethau yn bwysig i fy ysgol". Dim ond pump y cant o ddisgyblion Blwyddyn 8 oedd yn anghytuno'n llwyr â hyn, er bod y ganran yn codi i 10 y cant ymhlith disgyblion Blwyddyn 10.

Cynyddodd nifer y bobl ifanc oedd yn cytuno â'r datganiad "Mae staff yr ysgol yn disgwyl llawer gen i" o 59 y cant ym Mlwyddyn 8, i 68 y cant ym Mlwyddyn 10. Ac roedd 76 y cant o ddisgyblion Blwyddyn 8, gan godi i 83 y cant o'r rheini ym Mlwyddyn 10, yn cytuno "Ar y cyfan, rwyf yn ymdrechu'n dda yn y dosbarth"

Mae gwaith Dr Smith yn canolbwyntio ar i ba raddau y mae egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, sy'n hyrwyddo hawl pobl ifanc i ddatblygu eu "personoliaethau, eu doniau a'u galluoedd i'r eithaf", yn cael eu diwallu mewn ysgolion.

Mae WISERD yn dod ag arbenigedd ym meysydd dulliau a methodolegau ymchwil mesurol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe ynghyd, ac yn adeiladu arno.  Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae canolfan WISERD.

Rhannu’r stori hon