Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraeth Cymru'n wynebu penderfyniadau anodd gyda'r gyllideb

14 Medi 2016

Senedd Building in Cardiff Bay

Yn ôl adroddiad newydd gan Raglen Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, gallai cyllideb Llywodraeth Cymru ostwng 3.2% mewn termau real dros y tair blynedd nesaf, gyda'r toriadau mwyaf yn 2018-19 a 2019-20.

Mae Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, a gynhelir gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn cynnig dadansoddiad annibynnol o'r heriau ariannol, economaidd a pholisi sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ymchwilwyr yn Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol (IFS) a luniodd yr adroddiad newydd - Welsh Budgetary trade-offs to 2019-20 - a daeth i'r amlwg ynddo hefyd y byddai diogelu cyllideb y GIG yn yr un modd ag a wneir yn Lloegr, yn golygu y byddai gwariant yn cael ei dorri 7.4% ar gyfartaledd mewn termau real.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu'r ffaith y bydd gan Lywodraeth Cymru dros £500 miliwn y flwyddyn yn llai o ganlyniad i golli grantiau'r UE os na cheir grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Prydain yn eu lle, a bydd hyn yn dyblu faint o'r gyllideb a gaiff ei thorri.

Dywedodd Michael Trickey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025: "Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu cyfnod anodd o hyd: nid yw'r cyni cyllidol ar ben ac mae'n anochel y bydd toriadau ariannol pellach dros y tair blynedd yn ôl pob golwg. Bydd hyn yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus i newid ar raddfa ehangach a lleihau'r effaith ar gymunedau. Fodd bynnag, bydd cwestiynau mawr yn wynebu gwleidyddion a'r cyhoedd hefyd ynghylch y gwasanaethau yr ydym am eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. "

Mae'r canfyddiadau pwysig eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Byddai cynyddu cyllideb y GIG 2% bob blwyddyn (sy'n llawer is na'r duedd hanesyddol) a rhoi'r un faint o arian ar gyfer cyfrifoldebau addysg a gwasanaethau cymdeithasol y cynghorau yn arwain at doriadau o 18% ar gyfartaledd yn y meysydd sydd heb eu diogelu dros y tair blynedd nesaf ar sail cynlluniau a rhagolygon cyfredol.
  • Pe byddai treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol gan gynyddu cyfraddau 1c yn y bunt yn gyffredinol, gallai hynny wneud yn iawn am bron hanner yr holl doriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru.
  • Fodd bynnag, cafwyd mwy o sôn am dorri trethi yn hytrach na'u codi yn ystod y cyfnod hyd at etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Byddai 1c o ostyngiad mewn cyfraddau treth incwm yn cynyddu'r toriadau cyffredinol i'r gyllideb o 3.2% i 4.7% erbyn 2019-20.

Dywedodd Polly Simpson, economegydd ymchwil yn yr IFS ac awdur yr adroddiad: "Mae'r gwaith ymchwil hwn yn amlygu'r penderfyniadau cyllidebol anodd a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn diogelu meysydd allweddol o wariant fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, byddai angen gwneud toriadau sylweddol mewn meysydd eraill sydd eisoes wedi gorfod ymdopi â saith mlynedd o doriadau mewn termau real.

"Rhaid sylweddoli hefyd na fydd codi'r trethi a reolir gan Lywodraeth Cymru neu'r cynghorau yn fodd o ddatrys y broblem yn ôl pob tebyg. Er enghraifft, hyd yn oed pe byddai cynghorau'n codi eu trethi dros 7% y flwyddyn, byddai rhai ohonynt yn wynebu o leiaf 10% o doriadau o dros y tair blynedd nesaf."

Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried y costau y gallai Llywodraeth Cymru eu hwynebu os na chaiff Cymru ei digolledu am arian o'r UE y mae ar fin ei cholli. Mae'n nodi bod:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd taliadau i ffermwyr yn cael eu gwarantu tan 2020, ond ni chaiff arian ei warantu ar gyfer meysydd fel prosiectau datblygu rhanbarthol a datblygu gwledig oni bai bod y prosiectau wedi'u cymeradwyi cyn Datganiad yr Hydref sydd ar y gweill. Ar ôl hynny, bydd prosiectau'n cael eu hariannu fesul achos. Pe byddai dim ond hanner ohonynt yn cael eu hariannu, bydd y toriad i gyllideb Cymru erbyn 2019-20 yn codi o 3.2% i 4.3%.
  • Mae hyd yn oed yn llai clir pa arian fydd ar gael ar ôl 2020 ar gyfer cynlluniau a ariennir gan yr UE ar hyn o bryd. Os na chaiff unrhyw arian ychwanegol ei roi, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i dros £500 miliwn y flwyddyn o'i chyllideb bresennol os bydd am barhau i ariannu'r cynlluniau hyn. Gallai hyn ddyblu'r toriadau i'r gyllideb ar gyfartaledd i 6.9% yn 2020-21 (gan dybio y bydd Llywodraeth Cymru yn cael yr un faint o arian).

Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen yn llawn yma.

Ariennir Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a phum corff cenedlaethol yng Nghymru - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, SOLACE Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a Chydffederasiwn GIG Cymru.

Rhannu’r stori hon