Ewch i’r prif gynnwys

Moddion rhyfeddol

13 Medi 2016

GMM

Mae ymchwilwyr o’r Ysgol Cemeg wedi talu teyrnged i storïwr mwyaf poblogaidd y byd drwy ail-greu golygfa o un o’i lyfrau enwocaf, George’s Marvellous Medicine, drwy ddefnyddio cemeg go iawn.

I ddathlu canmlwyddiant pen-blwydd Roald Dahl, mae’r tîm o gemegwyr wedi dod â gwaith yr awdur yn fyw drwy gymryd cysyniadau cemeg syml a’u defnyddio i ail-greu’r hyn y mae George yn ei weld, ei glywed a’i arogli yn y gegin wrth iddo baratoi moddion brawychus ar gyfer ei Nain.

O’r ewyn sy’n byrlymu, i’r aroglau tanllyd a’r fflachiau llachar, mae’r tîm yn esbonio sut gellir ail-ddweud y straeon hyn o’r llyfr a ffurfiwyd yn nychymyg bywiog Dahl mewn labordy, gan ddefnyddio cemeg a chynhwysion syml, megis cymysgu finegr a soda pobi.

Fodd bynnag, roedd Dahl bob amser yn hoff o wthio ei syniadau i’r eithaf, ac mae’r cemegwyr yn awyddus i rybuddio pawb na ddylai’r hyn maen nhw’n ei arddangos gael ei wneud gartref!

Ffilm

Dros y misoedd diwethaf, mae Prifysgol Caerdydd wedi dathlu canmlwyddiant Dahl drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau sy’n ystyried arwyddocâd a phoblogrwydd gwaith yr awdur.

Ganwyd Dahl yn Llandaf, Caerdydd ym 1916 i rieni Norwyaidd, ac roedd bob amser yn sicrhau bod Caerdydd a Chymru’n bresennol yn ei waith. Dyma thema a gafodd ei harchwilio gan yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth yr Ysgol Saesneg, mewn llyfr newydd a olygwyd ganddo, o’r enw Roald Dahl: Wales of the Unexpected.

Rhannu’r stori hon