Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli’r Poen

25 Awst 2016

Pain Management

Credir mai dyma’r cwrs hynaf o'i fath yn y byd, ac mae rhaglen Rheoli Poen Prifysgol Caerdydd yn rhoi i weithwyr meddygol proffesiynol y sgiliau sydd eu hangen i helpu i fynd i'r afael â mater byd-eang rheoli poen cronig.

Poen cronig yw poen hirdymor, parhaus am fwy na 12 wythnos neu wedi’r cyfnod pryd y dylai iachâd fod wedi digwydd ar ôl trawma neu lawdriniaeth. Credir ei fod yn effeithio ar dros 14 miliwn o oedolion yn y Deyrnas Unedig ac ar hyn o bryd mae’n costio’r swm syfrdanol o £15.4 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig ar ffurf budd-daliadau lles a £4.6 biliwn y flwyddyn ar ffurf costau cysylltiedig ag ymweliadau â meddyg teulu.

Dywedodd Dr Ann Taylor o'r Ysgol Feddygaeth: “Rydym yn hynod o falch ein bod yn dathlu 20 mlwyddiant ein rhaglenni addysg. Roedd yr MSc mewn Rheoli Poen yn gwrs arloesol pan gafodd ei lansio gyntaf yn 1996, gan ei fod yn rhyng-broffesiynol ac yn enghraifft o ddysgu o bell.  Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei ddatblygu a’i ddiwygio, a bellach mae’n enghraifft lawn o e-ddysgu, ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu a chynnwys arloesol i wella dysgu a llwyddiant y myfyrwyr.

"Roedd y rhai a gofrestrodd ar y cwrs a’i gwblhau yn y dyddiau cynnar yn sicr yn arloeswyr, gan nad oedd poen yn cael ei ystyried yn faes ymarfer arbenigol, fel y mae bellach. Nodau ein MSc yw darparu addysg seiliedig ar dystiolaeth i ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda'i gilydd, yn dysgu am sgiliau ei gilydd ac sy'n datblygu hyder i herio'r dystiolaeth a’i chyfosod er mwyn gwella ymarfer.  O ganlyniad mae gan y rhai sy’n profi poen ac yn byw gydag ef weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gallu darparu gwybodaeth gyfredol a pherthnasol i gynorthwyo’r penderfyniadau y mae pobl yn eu gwneud ynghylch sut dylid rheoli eu poen."

Ategir y cwrs gan Ganolfan Gymunedol Poen, adnodd dysgu sydd ar gael am ddim ar-lein gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth seiliedig ar dystiolaeth ac addysg ar boen a'i reolaeth. Mae dros 19,000 o ymwelwyr yn cyrchu’r adnodd dysgu ar-lein, sy’n rhad ac am ddim, bob mis, ac mae 75% o'r ymwelwyr hynny o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig – tystiolaeth sy’n cadarnhau apêl fyd-eang rhaglenni o safon uchel i reoli poen, yn ogystal â graddfa’r broblem fyd-eang o ran unigolion sy'n dioddef poen cronig hirdymor.

Elfen hanfodol o lwyddiant y rhaglen yn ystod y blynyddoedd diwethaf fu cefnogaeth y diwydiant drwy Napp Pharmaceuticals Limited. Maent wedi bod yn allweddol o ran cynnal y rhaglenni a chefnogi’r cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol ddysgu am reoli poen cronig ac, yn bwysicaf oll, fynd ymlaen i wella bywydau pobl sy'n byw gydag effeithiau dinistriol poen dyddiol.

Dywedodd Dr Paul Schofield, Cyfarwyddwr Meddygol yn Napp Pharmaceuticals: "Rydym yn gwybod bod bron chwarter yr holl ymweliadau â meddygon teulu yn ymwneud â phoen cronig – mae hwn yn ffigur syfrdanol, yn enwedig o'i osod yn erbyn y diffyg cyfleoedd i weithwyr iechyd rheng flaen ddysgu am reoli poen yn effeithiol. Hyd nes y daw poen cronig yn flaenoriaeth addysgol a chlinigol, bydd ei effaith ar gleifion, eu teuluoedd, y GIG a'r economi ehangach yn parhau i gynyddu.  Buom yn gweithio i fynd i'r afael â hyn ers dros 30 mlynedd bellach ac rydym yn hynod o falch ein bod yn parhau i wneud hynny drwy ein gwaith gyda Phrifysgol Caerdydd".

Mae’n bwysig bod yr addysg a ddarperir yng Nghaerdydd yn cael ei defnyddio i drawsnewid gwasanaethau poen yn y gymuned ledled y Deyrnas Unedig. Mae poen cronig yn parhau’n faes addysg sy’n cael ei esgeuluso’n druenus, er gwaethaf effaith enfawr poen cronig ar gleifion yn y Deyrnas Unedig a'r baich sylweddol ar systemau gofal iechyd. Ar hyn o bryd, dim ond 11% o ysgolion meddygol israddedig y Deyrnas Unedig sy’n cynnig modiwl poen pwrpasol a 4% yn unig sy’n ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr meddygol ddilyn rhyw fath o hyfforddiant poen. Mae addysg poen wedi galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella eu gwybodaeth am reoli poen mewn cyd-destunau gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, ac mae’n eu galluogi hefyd i gynorthwyo cleifion sydd â chyflyrau poen.

Cwblhaodd Dr Ahilan Hariratnajothi, meddyg teulu o Fryste, PGDip mewn Rheoli Poen ym Mhrifysgol Caerdydd ac ers hynny mae wedi gweithredu dull newydd o reoli poen yn ei feddygfa.  Dywedodd Dr Hariratnajothi: "Mae llawer o’m cleifion yn dioddef poen cronig a gall effaith hirdymor hynny ar gleifion a'u teuluoedd newid bywyd yn llwyr. Ar ôl cwblhau chwe modiwl Rheoli Poen ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi datblygu a gweithredu clinig poen pwrpasol yn y feddygfa ac mae hynny’n wir wedi ein helpu i roi gwell cefnogaeth i'n cleifion.

"Mae'n amhosibl disgrifio sut gall poen yn effeithio ar bob rhan o fywyd rhywun a gall gwelliannau bach, hyd yn oed, newid bywydau cleifion. Gall olygu mynd yn ôl i'r gwaith, cymryd rhan yng ngweithgareddau'r teulu neu hyd yn oed fynd allan o'r tŷ a mynd am dro. Rydym wrth ein bodd yn gweld bod yr addysg hanfodol hon yn parhau i gael ei darparu ym Mhrifysgol Caerdydd."

Yn y pen draw, miloedd o gleifion sydd wedi elwa ar yr hyfforddiant a gyflawnwyd gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd. Dywedodd Anthony Chutter, Cadeirydd Pain UK a Chadeirydd Pwyllgor Cyswllt Cleifion Cymdeithasau Cleifion Prydain:   "Yr wyf wedi byw gyda phoen ers dros 20 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, rwyf wedi rhyngweithio llawer â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rwyf wedi dod i ddeall y gwahaniaeth aruthrol yng ngwybodaeth, empathi a dyngarwch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael eu haddysgu ynghylch pobl sy'n byw gyda phoen ac mewn poen, a'r rhai nad ydynt. Mae derbyn gofal gan bobl sydd heb gael addysg yn ychwanegu at y frwydr ddi-baid y mae rhywun sy’n byw gyda phoen ac mewn poen yn ei hwynebu mewn bywyd. Mae’r rhai sydd wedi'u haddysgu yn cerdded law yn llaw â ni ac yn ein helpu ar hyd y ffordd.”