Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonydd o Gaerdydd yn cael ei ethol yn Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas Frenhinol

8 Gorffennaf 2016

Richard Catlow
Yr Athro Richard Catlow

Mae'r Athro Richard Catlow o'r Ysgol Cemeg wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Tramor nesaf y Gymdeithas Frenhinol.

Ystyrir y swydd, sy'n dyddio'n ôl i 1723, yn un o anrhydeddau mwyaf y byd gwyddonol, ac mae'r fferyllydd Prydeinig, Thomas Young, a'r gwyddonydd cemegol, Henry Tizard, ymhlith yr unigolion blaenllaw sydd wedi bod yn Ysgrifenyddion Tramor yn y gorffennol.

Yn rhinwedd ei swydd, bydd yr Athro Catlow yn cynrychioli'r gymuned wyddonol Brydeinig dramor ac yn gyfrifol am oruchwylio busnes rhyngwladol y Gymdeithas.

Dywedodd yr Athro Catlow: "Pleser a braint o'r mwyaf yw ymgymryd â'r rôl newydd a heriol hon. Mae gwyddoniaeth yn ymdrech rhyngwladol ac mae'n hollbwysig cynnal ac ymestyn y prosiectau cydweithredol rhyngwladol fel bod gwyddoniaeth yn y DU yn rhyngweithio ac yn chwarae rhan lawn ar lwyfan y byd."

Wrth siarad am y penodiad, dywedodd Venki Ramakrishnan, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol: "mae ansicrwydd ynghylch y berthynas rhwng gwyddoniaeth yn y DU ac Ewrop ar hyn o bryd, felly nid yw rôl Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas erioed wedi bod yn bwysicach. Mae gwyddoniaeth wastad wedi bod yn brosiect byd-eang, a chydweithredu rhyngwladol yw'r drefn arferol. Mae Richard Catlow mewn sefyllfa i helpu'r Gymdeithas i ymdopi â'r cyfnod anodd hwn a datblygu'r berthynas gref sydd gennym ar draws y byd."

Cymrodoriaeth hunanlywodraethol yw'r Gymdeithas Frenhinol. Mae'n cynnwys llawer o wyddonwyr mwyaf nodedig y byd o bob maes gwyddoniaeth, peirianneg a meddygaeth. Diben y Gymdeithas yw cydnabod, hyrwyddo a chefnogi rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth, yn ogystal â hyrwyddo datblygiad a'r defnydd o wyddoniaeth er lles dynoliaeth.

Meddai'r Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Hoffwn longyfarch yr Athro Catlow ar y penodiad nodedig hwn. Bydd rôl Ysgrifennydd Tramor yn dod yn fwyfwy pwysig wrth inni wynebu'r heriau newydd sy'n wynebu gwyddoniaeth yn Ewrop, a thu hwnt. Rwyf yn falch iawn o gael cydweithiwr mor uchel ei barch yn hyrwyddo ein disgyblaethau."

Mae ymchwil yr Athro Catlow yn datblygu ac yn defnyddio modelau cyfrifiadurol ochr yn ochr ag arbrofion sy'n ymchwilio i gyfuniad, strwythur a nodweddion deunyddiau. Drwy gyfuno dulliau mathemategol ag arbrofion, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at feysydd o bwys sy'n ymwneud â deunyddiau cemeg a ffiseg modern. Mae'r rhain yn cynnwys mwynoleg ac astudio deunyddiau electronig, ynni a chatalytig.

Ar hyn o bryd, mae'r Athro Catlow wedi'i benodi ar y cyd rhwng yr Adran Cemeg yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a'r Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae wedi cydweithio yn Ewrop, UDA, India, Tsieina, Japan, Cuba, Affrica ac Australia ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn rhaglenni cynyddu adnoddau yn Affrica.

Rhannu’r stori hon