Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp dethol i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd

11 Gorffennaf 2016

Nigel Owens - Honorary Fellow
Nigel Owens

Mae dyfarnwr rygbi rhyngwladol, nofelydd llwyddiannus, arbenigwr bancio byd-eang a'r milwr trawsrywiol uchaf ei statws ym Myddin Prydain, ymysg y rhai y bydd Prifysgol Caerdydd yn eu hanrhydeddu yn ei seremonïau graddio blynyddol yr wythnos nesaf (11 - 15 Gorffennaf 2016).

Bydd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn ymuno â'r nofelydd Dr Sarah Waters, yr arbenigwr bancio Stephen Bird a model rôl y gymuned LGBT, y Capten Hannah Winterbourne, yn cael anrhydeddau a ddyfernir i unigolion sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ragorol yn eu maes.

Bydd chwe unigolyn blaenllaw arall o feysydd eraill gan gynnwys ymchwil, bancio, newyddiaduraeth a nyrsio, yn cael Cymrodoriaethau er Anrhydedd. Mae'r rhain yn cynnwys nyrs gofal lliniarol a'r ymchwilydd yr Athro Julia Downin; Prif Weithredwr Wesley Clover, yr Athro Simon J. Gibson; Cadeirydd Imanova, John Jeans CBE; y newyddiadurwr a'r awdur o fri, Thomas Kielinger OBE; ymchwilydd gwyddoniaeth gymdeithasol, Athro Emerita y Fonesig Teresa Rees; a'r arbenigwr bancio buddsoddiad a'r awdur Terry Smith.

Bydd Athro yr Arglwydd Darzi o Denham, llawfeddyg ac ymchwilydd o'r radd flaenaf, yn cael Gradd er Anrhydedd.

Bydd Nigel Owens yn cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gydnabod ei yrfa ddisglair fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol. Yn ddiweddar, daeth y dyfarnwr rhyngwladol mwyaf profiadol erioed pan ddyfarnodd gêm rhif 71. Mae Owens hefyd wedi dyfarnu mewn tri chystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn olynol, gan gynnwys y rownd derfynol yn Lloegr yn 2015. Mae wedi dyfarnu mwy o gemau mewn cystadlaethau Ewropeaidd nag unrhyw un arall, gan gynnwys chwe rownd derfynol, y nifer uchaf erioed.

Stephen Bird yw Prif Swyddog Gweithredol y banc defnyddwyr byd-eang yn Citi. Mae'n arwain tîm sy'n cynnwys dros 100,000 o weithwyr mewn 19 o wledydd, ac maent yn diwallu anghenion dros 100 miliwn o gwsmeriaid. Mae Stephen ymhlith pedwar o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n dychwelyd eleni i gael cymrodoriaeth er anrhydedd. Yr Athro Julia Downing, Athro Emerita y Fonesig Teresa Rees, a Terry Smith yw'r tri arall.

Bydd Dr Sarah Waters, nofelydd arobryn o Sir Benfro a ddaeth i amlygrwydd ar ôl cyhoeddi ei nofel gyntaf, Tipping the Velvet, yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad sylweddol at y celfyddydau.

Cafodd y Capten Hannah Winterbourne ei phenodi'n filwr trawsrywiol uchaf ei statws ym Myddin Prydain yn 2013, ac mae'n ymgyrchydd brwd dros gynnwys pobl drawsrywiol ym myd y campau. Caiff y Capten Winterbourne ei hanrhydeddu am ei hymdrechion fel model rôl yn y gymuned drawsrywiol.

Bydd Athro yr Arglwydd Darzi o Denham, Cadeirydd Llawfeddygaeth Paul Hamlyn yng Ngholeg Imperial Llundain, Ysbyty Brenhinol Marsden a'r Sefydliad Ymchwil Ganser, yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad at feddygaeth a llawfeddygaeth.

Bydd dros 6,000 o fyfyrwyr yn graddio yn y seremonïau eleni. Yn sgîl hynny, byddant yn ymuno â'r 145,000 o gynfyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd, a chael manteisio ar lu o fuddiannau a gynigir i gynfyfyrwyr. Cewch ragor o wybodaeth am ymuno â'r rhwydwaith hwn,yn www.caerdydd.ac.uk/join-alumni.

Bydd tua 30,000 o bobl yn cael eu croesawu i Gaerdydd ar gyfer y dathliadau, ac yn cefnogi llwyddiannau rhagorol a chyflawniadau pwysig graddedigion drwy gydol eu hastudiaethau.

Mae'r digwyddiad yn un o'r rhai mwyaf yng nghalendr y Brifysgol a bydd y seremonïau'n cael eu darlledu'n fyw yn ardal yr Aes, Caerdydd, yn ogystal â’u ffrydio ar wefan y Brifysgol.

Cymrodyr Er Anrhydedd 2016

Yr Athro Simon J. Gibson, OBE, DSc
Yr Athro Simon J. Gibson, OBE, DSc

Professor Simon J. Gibson, OBE, DSc

Professor Simon J. Gibson OBE DSc yw Cadeirydd Sefydliad Entrepreneuriaeth Graddedigion Alacrity a Phrif Weithredwr y Wesley Clover Corporation. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr ar gwmni IQE plc, Gwesty Hamdden y Celtic Manor a chwmni Innovation Point. Mae’n Llywodraethwr ar Goleg Harris Manceinion ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Athro yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.

Y Capten Hannah Winterbourne REME
Y Capten Hannah Winterbourne REME

Captain Hannah Winterbourne REME

Capten Hannah Winterbourne REME yw’r milwr trawsryweddol uchaf ei safle ym Myddin Prydain. Cafodd ei phenodi yn Gynrychiolydd Trawsryweddol y Fyddin, ac mae’n cynghori Cadlywyddion y Fyddin ar bolisi trawsryweddol, yn addysgu’r Lluoedd ehangach ac yn mentora milwyr trawsryweddol y Fyddin. Mae’n un o noddwyr Mermaids, yr elusen drawsryweddol ar

Stephen Bird
Stephen Bird Prif Swyddog Gweithredol y Banc Defnyddwyr Byd-eang yn Citi

Stephen Bird

Stephen Bird (MBA 1995) yw Prif Swyddog Gweithredol y Banc Defnyddwyr Byd-eang yn Citi, ac mae’n gweithio yn Efrog Newydd. Mae’n eiriolwr brwd dros addysg ariannol ac adeiladu timau amrywiol. Mae ei yrfa wedi cwmpasu meysydd Peirianneg, Gweithrediadau a Thechnoleg a Bancio.

yr Arglwydd Darzi
Yr Athro yr Arglwydd Darzi o Denham OM KBE PC FRS FMedSci HonFREng

Professor the Lord Darzi of Denham OM KBE PC FRS FMedSci HonFREng

Yr Athro Arglwydd Darzi o Denham OM KBE PC FRS FMedSci HonFREng yw Cadeirydd Llawfeddygaeth Paul Hamlyn yng Ngholeg Imperial Llundain, Ysbyty Brenhinol Marsden a’r Sefydliad Ymchwil Canser. Mae’n Gyfarwyddwr ar y Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial Llundain ac yn Llawfeddyg Ymgynghorol er Anrhydedd yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Coleg Imperial.

Terry Smith
Terry Smith MNZM

Terry Smith MNZM

Mae Terry Smith MNZM (BA 1974), yn gyn ddadansoddwr banciau a ddyfarnwyd yn un o’r goreuon yn ei faes, ac mae’n awdur y llyfr llwyddiannus Accounting for Growth. Daeth yn Brif Weithredwr y busnes bancio buddsoddi Collins Stewart yn 2000, ac yn 2010 lansiodd ei fusnes rheoli cronfeydd ei hunan, Fundsmith, sydd bellach yn rheoli dros £7 biliwn.

Sarah Waters
Dr Sarah Waters ©Charlie Hopkinson

Dr Sarah Waters

Cyhoeddwyd nofel gyntaf Dr Sarah Waters Tipping the Velvet, ym 1998, ac enillodd Wobr Betty Trask. Ers hynny mae wedi ysgrifennu pum nofel Saesneg arall sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi eu cyfieithu i bedair ar hugain o ieithoedd. Mae sawl un wedi eu haddasu ar gyfer teledu a’r llwyfan. Cafodd ei darn theatr drochi a gyd-ysgrifennwyd gyda Christopher Green, The Frozen Scream, ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2014.

Teresa Rees

Professor Emerita Dame Teresa Rees FLSW FAcSS

Gwasanaethodd Yr Athro Emerita y Fonesig Teresa Rees (PhD 1993) FLSW FAcSS, fel Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2003 a 2010, gyda chyfrifoldeb am staff, myfyrwyr ac ymchwil. Mae ei hymchwil wedi dylanwadu ar bolisïau yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn ei Aelod-wladwriaethau, yn fwyaf diweddar ym meysydd menywod mewn gwyddoniaeth ac asesu ansawdd ymchwil. Bu hefyd yn ymwneud ag ymchwil sydd wedi dylanwadu ar benderfyniadau yng Nghymru, yn enwedig ym maes addysg uwch.

Nigel Owens
Nigel Owens MBE

Nigel Owens MBE

Dyfarnwr rygbi’r undeb yw Nigel Owens MBE. Ef oedd yr unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2007 yn Ffrainc ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd. Ef yw’r dyfarnwr sydd wedi’i gapio fwyaf yng nghystadlaethau Ewrop. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaeth i chwaraeon yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.

Thomas Kielinger
Thomas Kielinger OBE

Thomas Kielinger OBE

Mae Thomas Kielinger OBE (Anrh.) yn ohebydd Prydain ar bapur newydd Almaeneg Die Welt, a hynny ers amser maith. Enillodd ganmoliaeth fawr am ei lyfrau, yn eu plith fywgraffiadau o Frenhines Prydain a Winston Churchill. Mae’n cyfrannu’n aml at raglenni radio a theledu Prydain a’r Almaen.

Yr Athro Julia Downing
Yr Athro Julia Downing

Professor Julia Downing

Nyrs gofal lliniarol, addysgwr ac ymchwilydd yw Yr Athro Julia Downing (BN 1991). Bu’n gweithio ym maes gofal lliniarol ers 25 mlynedd, gan gynnwys yn Uganda, Affrica a Dwyrain Ewrop. Mae’n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Makerere, Kampala, ac yn Athro Gwadd mewn sawl prifysgol gan gynnwys Prifysgol Belgrad a Phrifysgol Edge Hill.

John Jeans
D John Jeans CBE CEng BSc MIChemE

D John Jeans CBE CEng BSc MIChemE

D John Jeans CBE CEng BSc MIChemE yw Cadeirydd Imanova, UK Biocentre ac EM Imaging, ac mae’n Gyfarwyddwr ar gwmnïau Renishaw plc a ProMetic Ltd. Roedd yn arfer bod yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd a Dirprwy Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Feddygol. Penodwyd John yn Hyrwyddwr Gwyddorau Bywyd gan Brif Weinidog Prydain yn 2014, ac mae’n cadeirio un o baneli cynghori Llywodraeth Singapôr.

Rhannu’r stori hon