Ewch i’r prif gynnwys

Staff yn dathlu Gwobr gwyrddni

22 Mehefin 2016

Llun o'r Staff Gwasanaethau Proffesiynol yn derbyn y wobr gan yr Is-Ganghellor
Staff Gwasanaethau Proffesiynol yn derbyn y wobr gan yr Is-Ganghellor

Mae staff Gwasanaethau Proffesiynol Ysgol y Gymraeg wedi derbyn gwobr arian yng Ngwobrau Green Impact Undeb Myfyrwyr Prydain gydag un aelod o’r tîm yn derbyn y wobr Arwr Amgylcheddol Cenedlaethol.

Cynllun gwobrau ac achrediad  amgylcheddol yw Green Impact sydd yn annog arferion gwaith cynaliadwy mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae’r tîm wedi sefydlu arfer da wrth  lynu at weithdrefnau cynaliadwy yn y swyddfa gan gynnwys argraffu yn ddwy ochrog a defnyddio iPads mewn cyfarfodydd yn hytrach nag argraffu papurau ac atodiadau.

Tra bod llwyddiant yr Ysgol yn destament i waith y tîm cyfan, enillodd un aelod o staff gydnabyddiaeth ychwanegol am ei chyfraniad. Derbyniodd Mari Rowlands, Gweinyddydd Cefnogi Staff Ysgol y Gymraeg a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, y wobr Arwr Amgylcheddol gan Is-Ganghellor Colin Riordan mewn seremoni ym Mhrif Adeilad y Brifysgol.

Dros y flwyddyn diwethaf buodd Mari yn trefnu nifer o ddigwyddiadau elusennol gan gynnwys:

  • annog staff i roi nwyddau ac anrhegion i apêl elusennau Llamau
  • codi £120 trwy fore coffi – digon i noddi gwobr yn yr Eisteddfod
  • trefnu digwyddiad oedd yn cynnwys nwyddau Masnach Deg

Dywedodd Eirwen Williams, Rheolwr yr Ysgol: “Dwi’n  falch iawn o lwyddiant y tîm ac yn arbennig o hapus i weld Mari, sydd wedi arwain y prosiect yma, yn derbyn cydnabyddiaeth a Gwobr Cenedlaethol am ei hymrwymiad a’i gwaith caled. Y nod nawr yw cyrraedd y safon aur a dwi’n  siŵr y byddwn yn llwyddo i wneud hynny’n fuan.”

Rhannu’r stori hon