Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnod newydd i Gysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd

14 Ebrill 2016

International relations

Mewn ymgais i sefydlu Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol y Brifysgol fel arweinydd blaenllaw yn y maes, mae Caerdydd wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn staff Cysylltiadau Rhyngwladol newydd.

Mae 18 o academyddion wedi ymuno ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gan olygu bod yr Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol bellach yn un o'r rhai mwyaf yn y DU.

Mae'r penodiadau newydd hyn yn cryfhau tîm sydd eisoes yn uchel ei barch, ac sydd ag enw da'n fyd-eang, gan ddod ag amrywiaeth eang o arbenigedd newydd i'r adran.

Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gweld myfyrwyr yn cael eu haddysgu mewn ffordd flaenllaw a arweinir gan ymchwil, mewn meysydd ar draws y ddisgyblaeth, gan gynnwys gwleidyddiaeth niwclear a hanes y rhyfel oer; diogelwch ar y we; cudd-wybodaeth, terfysgaeth a throseddau rhyfel; rhywedd a materion milwrol; ffeministiaeth a gwleidyddiaeth fyd-eang hanfodol; gwladychiaeth, imperialaeth a gwrthwynebiad; yr amgylchedd a newid byd-eang yn yr hinsawdd.

"Mae gweld buddsoddiad o'r fath yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ddatblygiad hynod anarferol – yn sicr yng Nghaerdydd, ac hyd eithaf fy ngwybodaeth, ledled sector addysg uwch y DU" meddai'r Athro Dan Wincott, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

"Rwyf wrth fy modd y bydd carfan o staff newydd o safon mor uchel yn ymuno â mi, gan greu cyfle i ddatblygu rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig newydd ac ysgogol yn yr Ysgol."

Mae'r buddsoddiad wedi denu ysgolheigion o bedwar ban y byd. Dyma restr o'r staff sydd wedi ymuno â ni ar bob lefel, o Gadeirydd i Ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa:

  • Victoria Basham
  • Huw Bennett
  • Andrea Calderaro
  • Madeline Carr
  • Campbell Craig
  • Sara Dezalay
  • Alena Drieschova
  • Branwen Gruffydd Jones
  • Hannes Hansen-Magnusson
  • Anne Harrington
  • Claudia Hillebrand
  • Hannah Hughes
  • Gabriela Kuetting
  • Sergey Radchenko
  • Simone Tholens
  • Brandon Valeriano
  • Elisa Wynne Hughes
  • Marysia Zalewski

Rhannu’r stori hon