Ewch i’r prif gynnwys

Sêl bendith i synhwyrydd tonnau disgyrchol yn India

22 Chwefror 2016

Gravitational Waves research building

Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn chwarae rôl hollbwysig o ran sicrhau synhwyrydd tonnau disgyrchol newydd i India

Mae synhwyrydd tonnau disgyrchol newydd wedi cael ei gymeradwyo yn India yn dilyn cefnogaeth ac arweiniad hanfodol gan grŵp o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Daw hyn lai nag wythnos wedi cyhoeddi fod tonnau disgyrchol wedi’u canfod am y tro cyntaf.

Chwaraeodd y Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol ym Mhrifysgol Caerdydd rôl hollbwysig wrth i’r synhwyrydd newydd fynd drwy’r broses gymeradwyo, gan ddatblygu ac ysgrifennu’r achos gwyddoniaeth ac amddiffyn y cynnig o flaen Sefydliad Gwyddoniaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau, sydd wedi cytuno i drosglwyddo rhywfaint o’r brif dechnoleg i India - cynigwyd yn wreiddiol am drydydd synhwyrydd i’r Unol Daleithiau.

Mae Llywodraeth India wedi cymeradwyo’r prosiect LIGO-India ‘mewn egwyddor’ a byddant yn ceisio adeiladu’r synhwyrydd newydd i ategu’r synwyryddion LIGO sydd ar waith yn barod yn Washington a Louisiana yn yr Unol Daleithiau. Wedi’i gynnig gan yr Indian Initiative in Gravitational-Wave Observations (IndIGO), bydd y prosiect dan arweiniad yr Inter University Centre for Astronomy and Astrophysics (IUCAA), Indian Plasma Research (IPR) Institute a Raja Ramanna Centre for Advanced Technology (RRCAT).

Gyda’r rhan fwyaf o dechnoleg allweddol ar waith, mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai synhwyrydd LIGO-India ddechrau casglu canlyniadau mewn tua 8 mlynedd.

Yn ogystal â’r Uwch Synhwyrydd VIRGO yn yr Eidal a synhwyrydd arall sy’n cael ei adeiladu yn Siapan (KAGRA), bydd hyn yn darparu rhwydwaith byd-eang gwirioneddol o synwyryddion tonnau disgyrchol.  Mae gwaith a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos y bydd y rhwydwaith byd-eang hwn yn caniatáu i ni glustnodi lleoliad signalau’r tonnau disgyrchol yn llawer mwy cywir, gan ganiatáu i seryddwyr weld y digwyddiadau gyda thelesgopau ar y ddaear ac yn y gofod.  Bydd yr arsylwadau ar y cyd hyn yn taflu goleuni newydd ar darddiad y digwyddiadau cataclysmig sy’n cynhyrchu tonnau disgyrchol.

Dywedodd yr Athro B S Sathyaprakash, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'n wefreiddiol i weld arian yn dod ar ôl darganfyddiad mawr. Bydd LIGO India yn agor pennod newydd nid yn unig ar gyfer Gwyddoniaeth Indiaidd ond hefyd ar gyfer seryddiaeth ddisgyrchol. Gyda rhwydwaith byd-eang o synwyryddion byddwn yn gallu cadw golwg cyson ar yr awyr."

Dywedodd David Reitze o Caltech, athro ymchwil a chyfarwyddwr gweithredol LIGO: "Gyda'r cyhoeddiad hwn, mae India yn dweud wrth y byd ei fod yn bwriadu chwarae rôl arweiniol mewn seryddiaeth tonnau disgyrchol yn y degawd i ddod.  Yr wyf yn falch eu bod wedi cymryd y camau hyn."

Meddai Dr Stephen Fairhurst, hefyd o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Bydd synhwyrydd LIGO India yn ychwanegiad hanfodol at y rhwydwaith byd-eang.  Bydd yn gwella ein gallu i leoli ffynonellau ar yr awyr, gan alluogi lloerennau a thelesgopau i chwilio am wrthrannau i signalau tonnau disgyrchol.”

Dywedodd yr Athro Bala Iyer, Cadeirydd consortiwm IndIGO: "Mae fy ngrŵp wedi gweithio'n agos gyda’r Athro Sathyaprakash  am dros ddau ddegawd ar amrywiaeth o bynciau ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ganfod tonnau disgyrchol. Roedd rhyngweithio gyda grŵp Caerdydd yn ystod fy ymweliadau yn brofiad dysgu hynod werthfawr i mi, ac roedd yn hanfodol pan dderbyniais rolau Cadeirydd IndIGO a Phrif Ymchwilydd IndIGO-LSC."