Ewch i’r prif gynnwys

Cyswllt seicosis

18 Chwefror 2016

ghosts on beach

Astudiaeth yn taflu goleuni ar y berthynas rhwng IQ plentyndod, pwysau geni isel a seicosis

Mae ymchwilwyr wedi darganfod y gallai addasiadau microsgopig yng ngwifriad yr ymennydd - mewn rhannau o'r ymennydd sy'n sail i resymeg ac ymwybyddiaeth - fod yn gyfrifol am y cysylltiad rhwng IQ plentyndod, pwysau geni isel a phrofiadau seicotig yn ddiweddarach.

Mae'r astudiaeth newydd hon, a gyhoeddwyd heddiw yn JAMA Psychiatry, yn brosiect cydweithredol rhwng Coleg y Brenin Llundain, Prifysgol Bryste a Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Yn ôl y tîm ymchwil, gallai'r technegau delweddu'r ymennydd a ddefnyddir yn yr astudiaeth hon gael eu defnyddio ryw ddydd i helpu i wella prosesau diagnosis a thriniaeth ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc.

Rydym yn gwybod am nifer o ffactorau risg ar gyfer datblygu seicosis, gan gynnwys pwysau geni isel. Mae ymchwilwyr hefyd yn gwybod bod gwahaniaethau i'w gweld yng ngwifriad ymennydd cleifion sydd â seicosis. Mae'n bosibl y gallai'r addasiadau hyn ymddangos am y tro cyntaf yn ystod plentyndod, o ganlyniad i IQ llai.

Fodd bynnag, nid yw'n glir beth yw rôl gwifriad yr ymennydd wrth droi ffactor risg cyffredin, sydd i'w ganfod ymysg llawer o bobl iach, yn anhwylder clinigol.

Roedd yr ymchwilwyr am drin a thrafod y cysylltiad rhwng gwahaniaethau yng ngwifriad yr ymennydd a phrofiad seicosis ymhlith pobl ifanc. Bu'r ymchwilwyr hefyd yn ymchwilio i sut gallai newidynnau datblygiadol fel IQ llai a phwysau geni isel, fod yn gysylltiedig â gwahaniaethau yn yr ymennydd a datblygiad seicosis.

Gan ddefnyddio data o dros 14,000 o bobl (yn rhan o garfan ALSPAC) sydd wedi cael eu hasesu o enedigaeth hyd at fod yn oedolyn, fe wnaeth yr ymchwilwyr sganio 250 o bobl gan ddefnyddio sganiwr delweddu atseiniol magnetig (MRI). Roedd hanner y bobl hyn wedi adrodd am brofiadau seicotig blaenorol (fel clywed lleisiau neu gredu bod rhywun yn gallu darllen eu meddyliau), a doedd yr hanner arall heb gael unrhyw brofiadau o'r fath. 

Gwelsant wahaniaethau cynnil yn llwybrau cyswllt yr ymennydd yn y rhai a oedd wedi profi symptomau seicosis, o'i gymharu â'r rheini nad oeddent wedi profi symptomau. Fe wnaeth y tîm ymchwil hefyd ystyried a allai'r cysylltiadau hyn yn yr ymennydd 'gyfryngu' y berthynas rhwng ffactorau datblygiadol, megis IQ plentyndod llai a phwysau geni isel, a gwahaniaethau yn natblygiad yr unigolyn (h.y. nodi rôl cysylltiadau'r ymennydd wrth ffurfio'r berthynas hon).

Datgelodd yr ymchwilwyr bod gwahaniaethau microsgopig yn yr ymennydd, mewn rhannau sy'n sail i resymeg ac ymwybyddiaeth, yn cyfryngu'r cysylltiad rhwng IQ plentyndod llai, pwysau geni isel a phrofiadau seicotig yn ddiweddarach.

Dywedodd Dr Mark Drakesmith, o Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC): "Mae'n arbennig o drawiadol y gellir esbonio tua 20% o'r berthynas rhwng pwysau geni isel a phrofiadau seicotig gan newidiadau yn y cylchedau niwral hyn. Dyma dystiolaeth gref o lwybr niwroddatblygol penodol i seicosis."

Ychwanegodd: "Gall defnyddio'r cyfuniad hwn o fodelu ystadegol a delweddu'r ymennydd helpu i ddarganfod gwahanol fecanweithiau ar gyfer amrywiaeth o anhwylderau seiciatrig. Yn y pen draw, gallai hyn arwain at ddulliau gwell, mwy manwl gywir, o roi diagnosis a thrin salwch meddwl."

Dywedodd yr Athro Anthony David o'r Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth (IoPPN) yng Ngholeg y Brenin Llundain, arweinydd yr astudiaeth: "Mae'r astudiaeth hon yn enghraifft wych o gydweithio ar draws disgyblaethau a sefydliadau. Yr hyn sydd mor bwysig am ein canlyniadau yw ein bod, drwy fabwysiadu safbwynt datblygiadol, wedi codi'r posibilrwydd o ddelweddu'r ymennydd yn y dyfodol i lywio ymyriadau i atal pobl ifanc sydd â ffactorau risg penodol rhag datblygu problemau iechyd meddwl difrifol."

Ariannwyd yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Meddygol.

Rhannu’r stori hon