Ewch i’r prif gynnwys

Creu gardd gymunedol

4 Chwefror 2016

Garden hand tools

Gwahoddir garddwyr i helpu i gyfrannu tuag at ardd gymunedol newydd, yn rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol

Mae prosiect ymgysylltu'r Porth Cymunedol yn rhoi cyfle i drigolion Grangetown ddysgu sgiliau garddio newydd mewn gweithdy ddydd Sadwrn, 6 Chwefror.

Yr her yw adeiladu gwelyau blodau uchel yn barod i blannu planhigion ar gyfer gardd gymunedol newydd yng Ngerddi Grange.

Nid oes angen profiad blaenorol arnoch, a bydd offer, hyfforddiant, planhigion, hadau a lluniaeth yn cael eu darparu.

Cynhelir y digwyddiad yn hen Bafiliwn Bowlio Grange yng Ngerddi Grange, rhwng 10am a 3pm.

Dyma'r cyntaf o sawl gweithdy garddio sydd ar y gweill:

  • Dydd Mawrth, 16 Chwefror 10am-1pm (sesiwn i'r teulu dros hanner tymor)
  • Dydd Gwener, 26 Chwefror 10am-1pm (plannu a chynnal)
  • Dydd Sul, 13 Mawrth 10am-1pm (plannu a chynnal)
  • Dydd Sul, 10 Ebrill 10am-1pm (sesiwn ar y cyd â Gerddi Pentre)

Mae prosiect yr ardd gymunedol yn bartneriaeth rhwng y Porth Cymunedol, Grown Cardiff, Eggseeds, Gweithredu Cymunedol Grangetown, Prosiect Pafiliwn Grange a Llywodraeth Cymru (Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy).

Pan fydd yr ardd wedi'i sefydlu, y nod yw ymgysylltu â grwpiau eraill yn y gymuned a'r Brifysgol i greu clybiau garddio ar ôl ysgol a gardd ymchwil sy'n gysylltiedig â phrosiect gwenyn mêl.

Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau.

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Mae hyn yn cynnwys cefnogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i leihau tlodi yn Affrica is-Sahara.

Mae'r Porth Cymunedol eisoes wedi cefnogi 32 o brosiectau, gan gynnwys caffi athroniaeth, wythnos o weithgareddau diogelwch cymunedol, gweithgareddau clirio sbwriel, diwrnod lles ac iechyd meddwl a phanel ymgynghori ysgolion.

Rhannu’r stori hon