Ewch i’r prif gynnwys

Trafod materion amlieithog mewn cynhadledd iaith ryngwladol

28 Ionawr 2016

Yr Athro Mac Giolla Chriost yn traddodi
Yr Athro Mac Giolla Chriost yn cyflwyno prif anerchiad y gynhadledd

Cyflwynodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost ei waith ymchwil a’i ganfyddiadau ar Bolisi Cymraeg a Chymru Amlddiwylliannol mewn prif anerchiad yng nghynhadledd ryngwladol Cymdeithas Canolfannau Iaith Prifysgolion (AULC).

Cynhaliwyd y gynhadledd ar 7 ac 8 Ionawr, dan ofal Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd yn Stadiwm y Mileniwm.

Hon oedd ail gynhadledd ar bymtheg y Gymdeithas, sy’n dod â gweithwyr proffesiynol ym meysydd dysgu ac addysgu iaith at ei gilydd; a rhoi cyfle iddynt gyfnewid arferion da a darganfod y datblygiadau diweddaraf yn y maes.

Daeth 120 i’r gynhadledd i wrando ar y prif siaradwyr o Gymru, yr Iseldiroedd a’r Almaen yn trafod amrywiaeth o bynciau o dan thema llunio cymdeithas amlieithog.

Ar ôl anerchiad yr Athro Mac Giolla Chriost, bu Dr Kevin Haines o Brifysgol Groningen, yr Iseldiroedd, yn trafod y Cyfleoedd a’r Heriau mewn Gofod Dysgu Amlieithog ac Amlddiwylliannol a siaradodd Dr Peter Tischer o Universität des Saarlandes, yr Almaen, am Dystysgrif Iaith Almaeneg UNIcert ar gyfer myfyrwyr y brifysgol.

Bu John Pugsley o Lywodraeth Cymru hefyd yn siarad am strategaeth ar gyfer dyfodol byd-eang. Nod y strategaeth yw cefnogi ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru.

Dyma’r tro cyntaf i'r Gymdeithas gynnal ei chynhadledd bwysig yng Nghymru; Prifysgol Caergrawnt oedd yng ngofal y gynhadledd y llynedd, a chynhelir yr un y flwyddyn nesaf ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast.

Rhannu’r stori hon