Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd o Gaerdydd ymhlith 'gwyddonwyr mwyaf dylanwadol y byd'

22 Ionawr 2016

Professor Graham Hutchings
Yr Athro Graham Hutchings

Enwi'r Athro Graham Hutchings ar restr flaenllaw o ymchwilwyr arwyddocaol yn 2015

Mae'r Athro Graham Hutchings, o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, wedi'i enwi yn un o 'wyddonwyr mwyaf dylanwadol y byd' gan y darparwyr gwybodaeth blaenllaw Thomson Reuters.

Mae'r Athro Hutchings yn un o arbenigwyr catalysis mwyaf blaenllaw'r byd, ac mae wedi'i ddewis ar restr o tua 3,000 o ymchwilwyr o bedwar ban y byd, y dyfynnwyd llawer ar eu gwaith gan gyfoedion yn 2015.

Caiff y rhestr hon ei chreu bob blwyddyn gan Thomson Reuters, ac mae'n seiliedig ar gronfa sy'n cynnwys tua naw miliwn o ymchwilwyr ledled y byd mewn 21 o feysydd arbenigol unigol.

Gwnaethpwyd yr Athro Hutchings yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 2009, ac mae'n un o tua 200 o ymchwilwyr i gael eu henwi ym maes cemeg, ac yn un o tua 250 o ymchwilwyr o'r DU i gael eu henwi.

Dewiswyd ef ar sail nifer y papurau a gynhyrchwyd ganddo dros gyfnod o 11 mlynedd, rhwng 2003 a 2013, sydd wedi'u dyfynnu'n helaeth.

Dyma'r eildro i'r Athro Hutchings gael ei enwi ar y rhestr o ymchwilwyr y dyfynnir hwy'n aml. Ymddangosodd ar y rhestr yn 2014 hefyd.

Fel Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, mae'r Athro Hutchings yn canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu catalyddion i gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion rhatach, glanach a mwy effeithlon.

Ei ddarganfyddiad nodedig yw bod aur yn gatalydd nodedig ar gyfer rhai adweithiau, yn enwedig wrth gynhyrchu finyl clorid – prif gynhwysyn PVC. Catalydd mercwri a ddefnyddir yn y diwydiant ar hyn o bryd, sy'n wenwynig ac yn niweidiol i'r amgylchedd. Mae aur yn rhoi dewis arall. Mae amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu y gellir gweithgynhyrchu dros 20 miliwn tunnell o finyl clorid bob blwyddyn drwy ddefnyddio'r catalydd aur.  

O ganlyniad i waith arloesol yr Athro Hutchings, mae'r catalydd aur bellach wedi'i fasnacheiddio gan y cwmni cemegau blaenllaw Johnson Matthey, ac mae'n cael ei gynhyrchu mewn adweithydd pwrpasol yn Shanghai, Tsieina ar hyn o bryd.

Wrth gyflwyno'r rhestr o academyddion arwyddocaol, dywedodd Thomson Reuters bod pob un o'r ymchwilwyr a gaiff eu rhestru "ar flaen y gad yn eu meysydd arbenigol."

Dywedon nhw hefyd: "Maent yn cyflawni ac yn cyhoeddi gwaith sydd, yn nhyb eu cyfoedion, yn ganolog i ddatblygiad eu maes gwyddonol. Felly, mae'r ymchwilwyr hyn ymhlith gwyddonwyr mwyaf dylanwadol ein hamser."

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Mae'r gydnabyddiaeth ragorol hon yn dyst i waith yr Athro Hutchings dros y degawd diwethaf, sydd wedi cael cryn effaith. Mae cael eich cydnabod ymysg rhestr mor nodedig o unigolion yn fraint ac yn anrhydedd. Mae gwaith yr Athro Hutchings ym Mhrifysgol Caerdydd yn parhau i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu cymdeithas heddiw, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn arwain at gydnabyddiaeth bellach yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon