Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol i arddangos rôl y gwyddorau cymdeithasol yn y gymdeithas

9 Tachwedd 2015

people walking in corridor blurred colours

Rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y DU gyfan

Yr wythnos hon (7-14 Tachwedd), bydd y Brifysgol yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau sy'n ceisio dangos a dathlu rôl y gwyddorau cymdeithasol yn ein bywydau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.

Fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a gynhelir ledled y DU, bydd y digwyddiadau'n dangos sut mae'r gwyddorau cymdeithasol yn dylanwadu ar yr ymatebion i rai o heriau mwyaf dybryd y byd modern.

Bydd sefydliadau academaidd ledled y DU yn defnyddio'r ŵyl wythnos o hyd i arddangos eu gwaith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Yng Nghaerdydd, mae'r ŵyl yn rhan o berthynas hirsefydlog ers hanner canrif rhwng y Brifysgol a'r Cyngor. Mae wedi paratoi'r ffordd ar gyfer ymchwil arloesol a gaiff ei hystyried wrth lunio polisïau yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Mae'r ŵyl yn gyfle pwysig i'r Brifysgol arddangos ei gwaith amlwg ym maes y gwyddorau cymdeithasol ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn cynnwys sawl canolfan ragoriaeth - gan gynnwys Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Sefydliad Polisïau Cyhoeddus Cymru (PPiW), a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru-gyfan ESRC.

Mae'r Brifysgol hefyd wrthi'n sefydlu Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd (SPARK). Bydd hyn yn golygu buddsoddiad cyfalaf o bwys mewn cyfleusterau i gefnogi gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol a arweinir gan y gwyddorau cymdeithasol, sy'n ceisio canfod atebion arloesol ac effeithiol i broblemau cymdeithasol o bwys. Bydd SPARK yn cynnig gofod a chyfleusterau i gyd-leoli cydweithwyr ymchwil allanol ochr yn ochr ag ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol a disgyblaethau eraill, i hyrwyddo syniadau a gwaith ymchwil creadigol newydd.

Dyma rai o'r digwyddiadau sy'n rhan o raglen Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC:

  • ‘Sea Change: Visions of climate change': arddangosfa ryngweithiol sy'n defnyddio delweddau a chyfweliadau i ddangos sut mae lefel y môr wedi newid yn Aber Hafren (28 Hydref - 20 Tachwedd)
  • A world of data: sy'n ceisio dangos i fyfyrwyr ysgolion sut i gynhyrchu data ei ddadansoddi a'i ddelweddu mewn ffordd ystyrlon a defnyddiol (10 Tachwedd)
  • WISERD Data Portal Demonstration: arddangosiad o sut gall sefydliadau'r trydydd sector ddefnyddio Porth Data WISERD ar gyfer ymchwil am Gymdeithas Sifil (11 Tachwedd)
  • DECIPHer SciSCREEN: The Perks of Being a Wallflower - ffilm sy'n adrodd hanes bachgen 15 oed a'i anawsterau iechyd meddwl wrth iddo dyfu fyny (13 Tachwedd)

Dyma rai o'r digwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod wythnos yr Ŵyl:

  • Ymchwil CASCADE am Blant sy'n Derbyn Gofal ac Addysg – lansio ymchwil newydd am ddyheadau addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru (11 Tachwedd)
  • Seminar Cymdeithas Sifil WISERD: Undebau sy'n ymgyrchu, Llywodraeth ddatganoledig: myfyrdodau am wladwriaeth, undebau a chymdeithas sifil (12 Tachwedd)
  • Atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol: Gwersi a ddysgwyd o ymchwil a gwaith Stop it Now! Cymru (12,13 Tachwedd)
  • Sesiwn adborth am ymchwil ynglŷn â chamau gweithredu cymunedol yn Butetown, Glan yr Afon a Grangetown (13 Tachwedd)

Dywedodd yr Athro Gill Bristow, Deon Ymchwil, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol:  'Mae'r digwyddiadau sydd wedi'u trefnu yng Nghaerdydd ar gyfer Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC yn gyfle gwych i gael gwybod rhagor am waith ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd, a'r llu o ffyrdd pwysig y mae'r gwaith ymchwil hwn yn effeithio ar ein cymunedau a'n cymdeithas'.

Cliciwch yma i weld rhestr o'r digwyddiadau sy'n agored i'r cyhoedd, a manylion am sut i gadw lle.