Ewch i’r prif gynnwys

Gemau Newyn

25 Mawrth 2019

Book cover

Cyfrol newydd yn edrych sut mae canibaliaeth ers tro wedi ffurfio perthynas y ddynoliaeth gyda bwyd, newyn a dicter moesol

Casgliad rhyngwladol o ddeg pennod yw To Feast on Us as Their Prey – Cannibalism and the Early Modern Atlantic wedi'i olygu gan y Darlithydd mewn Hanes Americanaidd Modern Dr Rachel Herrmann.

Gan archwilio beth mae'n ei olygu i gyhuddo rhywun o fwyta pobl yn ogystal â'r ffordd roedd sïon am ganibaliaeth yn hwyluso lledaeniad caethwasiaeth a datblygiad ymerodraethau, mae To Feast on Us as Their Prey yn dadlau ei bod yn amhosibl gwahanu hanes canibaliaeth oddi wrth y rôl mae bwyd a newyn wedi'i chwarae yn yr ymdrechion i wladychu a ffurfiodd ein byd modern.

Mae deg o ysgolheigion o'r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Norwy a Sweden yn trafod y pwnc yng Ngogledd a De America, y Caribî, Lloegr, yr Alban, yr Eidal ac Affrica.

Ceir penodau'n trafod pynciau sy'n amrywio o ohebiaeth fasnachol a diplomyddol am Christopher Columbus, rhyw a chanibaliaeth, y Sbaenwyr a'r Ewcharist i imperialaeth y Tuduriaid a chanibaliaeth a'r theatr.

Yn ei phennod ‘“The Black People Were Not Good to Eat”: Cannibalism, Cooperation, and Hunger at Sea’ mae Dr Herrmann yn defnyddio naratifau caethweision a gwaith gan bobl oedd o blaid dileu caethwasiaeth i edrych ar sut roedd caethweision a morwyr yn cydweithio ac yn ymladd dros fwydydd ar fwrdd llongau.

"Mae To Feast on Us as Their Prey yn dadlau bod rhaid astudio canibaliaeth ochr yn ochr â phynciau eraill fel diplomyddiaeth, rhywedd, newyn, imperialaeth a'r theatr. Er mwyn gwerthfawrogi ystyron niferus canibaliaeth, mae'n llawer mwy buddiol i holi pam fod straeon am ganibaliaeth yn bwysig i bobl ar yr adegau roedd y straeon hyn yn cael eu lledu nag yw i ddadlau a oedd pobl wirioneddol yn bwyta'i gilydd ai peidio" esbonia Dr Herrman.

Dechreuodd y gyfrol fel traethawd ymchwil gradd meistr ym Mhrifysgol Texas yn Austin, yna fel erthygl ar gyfer y William and Mary Quarterly ac yn dilyn hynny fel cynhadledd. Astudiodd israddedigion seminar History in Practice Dr Herrman ym Mhrifysgol Caerdydd ganibaliaeth hefyd ac ysgrifennu amdano gan ddefnyddio deunydd o'r gyfrol. Yn ystod Mis Hanes Menywod, bu Dr Herrmann yn trafod y casgliad gyda Redditors yn ystod sesiwn Gofynnwch unrhyw beth i mi a drefnwyd gan y subreddit r/AskHistorians.

Mae Dr Rachel Herrmann yn Ddarlithydd mewn Hanes Modern America gan arbenigo mewn hanes trefedigaethol, Chwyldroadol a'r Iwerydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar fwyd a newyn ym Myd yr Iwerydd. Mae ar hyn o bryd yn cynnal ymchwil ar Geographies of Power on Land and Water: Space, People, and Borders gyda Dr Jessica Roney o Brifysgol Temple yn yr Unol Daleithiau diolch i grant Cynllun Rhwydweitho'r AHRC.

Cyhoeddir To Feast on Us as Their Prey gan Wasg Prifysgol Arkansas yn ei chyfres Food Studies.

Rhannu’r stori hon