Ewch i’r prif gynnwys

Saeson am ffarwelio ag Ewrop?

30 Medi 2015

EU flag moving in the wnd

Mae arolwg newydd yn dangos y byddai 70% o'r rheini sy'n diffinio eu hunain yn Seisnig yn unig yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae canfyddiadau newydd a ryddhawyd heddiw gan ymchwilwyr o Gaerdydd yn dangos i ba raddau y mae'r Blaid Lafur wedi colli cysylltiad â hunaniaeth genedlaethol Seisnig sy'n fwyfwy wleidyddol.

Mae data o Arolwg Dyfodol Lloegr yn dangos y byddai 70% o'r rheini sy'n diffinio eu hunain yn Seisnig yn unig o ran eu hunaniaeth genedlaethol yn pleidleisio o blaid gweld y DU yn gadael yr UE, o'i gymharu ag 17% a fyddai pleidleisio dros aros. Ar y llaw arall, byddai 52% o'r bobl hynny sy'n byw yn Lloegr sy'n teimlo'n Brydeinig ac nid yn Seisnig, yn pleidleisio o blaid aros yn yr UE, o'i gymharu â 28% a fyddai'n pleidleisio dros adael.

Mae'r un arolwg hefyd yn tanlinellu i ba raddau y mae pobl yn Lloegr yn anfodlon â'r Deyrnas Unedig ei hun. Mae'r gefnogaeth ar gyfer y sefyllfa diriogaethol sydd ohoni – hynny yw, sefyllfa lle gwneir y cyfreithiau sy'n effeithio ar Loegr gan yr holl Aelodau Seneddol a gaiff eu hethol i Dŷ'r Cyffredin – bellach wedi gostwng i ddim mwy nag oddeutu 1 o bob 5 o etholwyr Lloegr.

Mae Arolygon Dyfodol Lloegr yn y gorffennol, a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Chaeredin, wedi dangos bod y rheini sydd â hunaniaeth genedlaethol Seisnig gref yn amlwg yn anfodlon â'r ddau uniad gwleidyddol y mae Lloegr yn rhan ohonynt - y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Arolwg 2015 yn cadarnhau'r patrwm hwn. Pan ofynnwyd i bobl ddewis rhwng opsiynau gwahanol ar gyfer llywodraethu Lloegr yn y dyfodol – Pleidlais Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr (EVEL: English Votes for English Laws), datblygu dinas-ranbarthau, neu gynnal y sefyllfa sydd ohoni – cefnogwyd EVEL gan 74% o'r rheini sydd â hunaniaeth genedlaethol Seisnig yn unig, o'i gymharu â 9% a oedd yn cefnogi datblygu dinas-ranbarthau. Dim ond 3% o'r ymatebwyr hyn oedd o blaid y sefyllfa bresennol. Ymysg y rheini oedd â hunaniaeth genedlaethol Brydeinig yn unig, roedd y gefnogaeth ar gyfer y gwahanol opsiynau yn llawer mwy cyfartal. Unwaith eto, EVEL oedd y dewis mwyaf poblogaidd gyda 34% o'r gefnogaeth, gyda dinas-ranbarthau yn dilyn gyda 25%, ac roedd 23% arall o blaid y sefyllfa bresennol.

Trafodir data o Arolwg Dyfodol Lloegr 2015 am y tro cyntaf mewn digwyddiad ymylol a drefnir gan Brifysgol Caerdydd yng Nghynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur yn Brighton.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd:

"Mewn araith yr wythnos ddiwethaf yn Llundain, honnodd cyn-gydlynydd polisi'r Blaid, Jon Cruddas, 'mai Lloegr fydd yn penderfynu dyfodol y Blaid Lafur'. O gofio bod tua 85% o etholwyr y DU yn byw yn Lloegr, mae'n debyg bod hyn yn wir.

"Mae'r data hwn yn dangos maint yr her sy'n wynebu'r Blaid Lafur yn glir, o ystyried y cynnydd yn yr hunaniaeth genedlaethol Seisnig wleidyddol. A'r Blaid – os nad ei harweinydd newydd – mor gryf o blaid aelodaeth â'r UE, ac yn gwrthwynebu unrhyw fath o symud tuag at system EVEL, yn ôl pob tebyg, mae Llafur wedi colli cysylltiad ag ymdeimlad cenedlaethol y Saeson.

"Er bod rhai yn y Blaid Lafur yn barod i honni bod cwestiynau cyfansoddiadol yn amherthnasol, dylai tynged y blaid yn yr Alban eu hatgoffa o'r peryglon yn sgîl anwybyddu'r ymdeimlad cenedlaethol yn ormodol."

Rhannu’r stori hon