Ewch i’r prif gynnwys

Yr ysgol yn cynnal rownd ranbarthol yr Her Ddaeareg Genedlaethol

23 Ionawr 2019

Ddaeareg Genedlaethol yr Ysgolion
Paul Maliphant o Mott MacDonald yn cynnal Rownd Derfynol Her Ddaeareg Genedlaethol yr Ysgolion 2018 yn swyddfeydd y Gymdeithas Ddaearegol yn Llundain.

Mae Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a Môr Prifysgol Caerdydd wedi’i dewis yn lleoliad ar gyfer y 10fed rownd ranbarthol flynyddol o'r Her Ddaeareg Genedlaethol, a gynhelir ym mis Ionawr 2019.

Lluniwyd y gystadleuaeth ranbarthol yn 2009 gan fyfyrwyr a staff Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Caerdydd) a Paul Maliphant, cynrychiolydd y Gymdeithas Ddaearegol. Mae Paul yn gweithio i Mott MacDonald, cwmni ymgynghorol ym meysydd peirianneg byd-eang, datblygu a rheoli byd-eang. Roedd Paul yn arfer bod yn Is-lywydd y Gymdeithas Ddaearegol ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Allanol Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

Yr her ranbarthol rhwng ysgolion uwchradd Cymru yn 2012, sydd wedi cael clod am ei gwerth addysgol a’r mwynhad mae’n ei rhoi i fyfyrwyr, a ysbrydolodd Rownd Derfynol gyntaf Her Ddaeareg Genedlaethol yr Ysgolion, a gynhaliwyd yn Llundain rhwng enillwyr y rowndiau rhanbarthol.

I ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, mae Her Ddaeareg Ysgolion De Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i hehangu i gynnwys Her Driphlyg, Her Daearegydd Gyrfa Gynnar a Dadl Balwn Daearegwyr Blaenllaw. Bydd y digwyddiad yn dod â disgyblion ac athrawon ysgolion uwchradd, myfyrwyr a darlithwyr prifysgol, a chynrychiolwyr y diwydiant geowyddorau ynghyd.

Cynhelir y Rownd Derfynol Genedlaethol gydag enillwyr rhanbarthol o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ym mis Mawrth 2019.

Rhannu’r stori hon