Ewch i’r prif gynnwys

Arloeswr o Brifysgol Caerdydd yn dychwelyd i Venturefest

24 Medi 2015

Venturefest stall with banners and receptionist

Yn ôl arloeswr o Brifysgol Caerdydd, Venturefest Wales wnaeth ei hysbrydoli i gyd-sefydlu busnes newydd sbon, ac mae'n dychwelyd i'r ŵyl un-dydd yr wythnos hon i gael mwy o ysbrydoliaeth

Cafodd Dr Jenna Bowen, darlithydd yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, ei hysgogi i sefydlu Cotton Mouton Diagnostics (CMD) ar ôl mynd i'r digwyddiad deinamig y llynedd. Bydd yn dychwelyd i Stadiwm Swalec ar 29 Medi i chwilio am fwy o gefnogaeth.

Cwmni newydd sy'n tarddu o brifysgolion Caerwysg a Chaerdydd yw CMD. Mae'r ddau sefydliad yn cydweithio yn rhan o gynghrair GW4 prifysgolion y de-orllewin.

Mae'r dechnoleg yn seiliedig ar system synhwyro magneto-optegol arloesol sy'n helpu i ganfod arwyddion o glefydau. Cafodd technoleg CMD ei datblygu fel diagnostig ar gyfer malaria ar y dechrau, ac mae wedi ennill ei phlwyf fel technoleg ddibynadwy, gadarn a sensitif.

Mae Dr Bowen yn gobeithio y bydd Venturefest Wales 2016 yn ysbrydoli darpar entrepreneuriaid eraill.

"Rhoddodd Venturefest yr offer, y wybodaeth a'r hyder oedd arnaf eu hangen i fynd ati i chwilio am fuddsoddiad ariannol ar gyfer CMD.  Yn gynharach eleni, cawsom afael ar y buddsoddiad hwn drwy Innovate UK, un o bartneriaid Venturefest. Pleser o'r mwyaf fydd dychwelyd ar 29 Medi fel cyd-sylfaenydd cwmni newydd Cotton Mouton Diagnostics i geisio denu mwy o fuddsoddiad a datblygu rhagor o gysylltiadau cydweithio."

Prifysgol Caerdydd yw un o bartneriaid Venturefest Wales 2015. Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dod ag entrepreneuriaid, buddsoddwyr a chwmnïau arloesol ynghyd i ysbrydoli twf busnes drwy gysylltu, rhannu syniadau, a datblygu atebion busnes.

Sarah Dickins o'r BBC fydd yn cyflwyno Venturefest Cymru a bydd yn cynnwys sesiynau un i un gydag arbenigwyr a mentoriaid, gweithdai rhyngweithiol ac arddangosfeydd. Mae Dr Katherine Shelton a Sam Austin, sefydlwyr partneriaeth arobryn Prifysgol Caerdydd gydag elusen Llamau o Gaerdydd, ymhlith y siaradwyr.

Rhannu’r stori hon