Ewch i’r prif gynnwys

Amser Justin Time yn nodi Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas

14 Tachwedd 2018

Dr Catherine Hogan on confocal

Mae elusen o Gymru'n dathlu Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas drwy roi dros £39,000 i ymchwil canser arloesol yng Nghymru, i helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer offerynnau canfod cynnar a therapïau newydd ar gyfer un o ganserau mwyaf angheuol y byd.

Yn y DU, caiff yn agos i 10,000 o bobl ddiagnosis o ganser y pancreas bob blwyddyn, gyda hanner yr achosion o ddiagnosis yn digwydd yn yr uned frys, a'u trin fel argyfwng. I helpu i wella atal, diagnosis a thriniaeth y clefyd, mae Amser Justin Time yn rhoi £39,024 i Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Caerdydd er cof am Justin Smith.

Lansiwyd Amser Justin Time gan y soprano o Gymru, Shân Cothi, ar ôl iddi golli ei gŵr i ganser y pancreas yn dilyn salwch byr. Ers lansio Amser Justin Time, mae'r elusen wedi codi dros chwarter miliwn o bunnoedd i gyllido ymchwil canser y pancreas, gan roi cyfanswm o dros £20,000 o roddion elusennol i labordy Dr Catherine Hogan ym Mhrifysgol Caerdydd, i'w helpu i gwblhau eu hymchwil.

Dywedodd Dr Catherine Hogan, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae canser y pancreas yn glefyd difäol sydd â phrognosis gwael, gan fod cynifer o bobl yn anffodus yn cael y diagnosis pan fydd yn rhy hwyr i'w wella. Mae hyn yn golygu bod canfod cynnar yn allweddol ar gyfer gwella prognosis cleifion.

"Mae ein gwaith yn ceisio deall camau cynnar canser y pancreas, gan archwilio'r fioleg sy'n sail i'r ffordd mae canser y pancreas yn dechrau ac yn datblygu o feinwe iach.

"Mae gan feinweoedd ein cyrff systemau da iawn sy'n cael gwared â chelloedd sydd wedi mwtanu neu sy'n rhag-ganseraidd ac mae hyn yn helpu i gadw meinweoedd yn iach. Ond mae'n ymddangos bod y celloedd canser hyn weithiau'n gallu osgoi'r systemau amddiffynnol hynny, ac osgoi cael eu dinistrio gan fynd ymlaen i ffurfio canser.

"Dros y pum mlynedd ddiwethaf rydym ni wedi ceisio pennu sut caiff meinwe iach y pancreas ei gynnal.  Drwy gynyddu ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r meinwe'n cadw'n iach, gallwn bennu sut y caiff tiwmor ei sbarduno i ddechrau a datgelu'r mecanweithiau sy'n gyrru datblygiad y tiwmor.

"Os gallwn ni ddeall hyn, gallwn fynd ymlaen i ddatblygu gwell offerynnau darganfod a diagnosteg fydd yn helpu i newid bywydau."

Ar 15 Tachwedd, Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas, bydd Amser Justin Time yn rhoi cyllid elusennol i helpu i ddatblygu gwaith Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd, gan barhau â'r cymorth mae'r elusen wedi'i roi i ymchwil Dr Hogan.

"Ers 2014, mae ein hymchwil wedi derbyn cefnogaeth Amser Justin Time, a bu'r cymorth hwn yn allweddol yn caniatáu i ni ddatblygu dulliau newydd ac arloesol i archwilio bioleg celloedd ar gam cynnar canser y pancreas.

"Rydym ni hefyd yn datblygu prosiectau cydweithredol trosiadol gydag ymchwilwyr canser o fewn Prifysgol Caerdydd ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym ni hefyd yn cysylltu â thimau canser y pancreas ar lefel genedlaethol yn y DU. Felly, mae'r cymorth hwn wedi helpu i osod Cymru ar y blaen ym maes ymchwil canser y pancreas.

"Heb gefnogaeth fel hyn, fyddai hi ddim yn bosib i ni barhau â'n hymchwil. Rydym ni'n hynod o ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Amser Justin Time a Shân Cothi, sy'n caniatáu i ni chwilio am atebion fydd yn helpu i drawsnewid y ffordd rydym ni'n trin canser y pancreas yn y dyfodol," ychwanegodd Catherine.

Rhannu’r stori hon